MARW SYDYN.

Foreu Mawrth diweddaf, cafwyd Mr. William Thomas, Tir Du, yn ei gadair yn y gegin wedi marw.

Yr oedd yn dilyn ei oruchwyliaeth o gario nwyddau o Bwllheli y diwrnod blaenorol, a thystiai cymydog iddo fod yn ymddiddan ag ef nos Lun, ac nad oedd wedi sylwi ar ddim amgen nag arferol arno.

Oddeutu un-ar-ddeg foreu Mawrth yr oedd gan rywun neges yn ei breswylfod, a gwelwyd ef trwy'r ffenestr yn eistedd mewn cadair. Cyrchwyd dau ddyn i'r lle, a chawsant ef yn farw yn y gadair. Yr oedd canwyllbren yn ei law. Bernid iddo farw y noswaith cynt, o fethiant y galon, pan ar fyned i orphwys.

Yr oedd y trancedig yn wyth a thriugain oed, ac yn gymeriad hoffus a phoblogaidd yn yr ardal. Creodd y newydd daethus fraw drwy y cylch. Yr oedd yn derbyn blwydd dal ers amser. Oddeutu blwyddyn yn ôl bu farw ei wraig yn sydyn iawn yn y fynwent, pan yn dod yn ôl o lanhau yr Eglwys.

Yr Udgorn 16/04/1913