MILWROL.
Mae y Cyn-gynghorydd G. O. Willliams - Bottwnog, yr hwn a ymfudodd i Canada tua dwy flynedd yn ôl wedi dychwelyd adref, i ymuno a'r fyddin Gymreig yn Llandudno ac y mae yn awr yn treulio wythnos i geisio deffro bechgyn Lleyn i'w rhwymedigaethau.Bu i Mr. George Kidd, Penmount Terrace, oedd yn gwasanaethu gyda'r pellebr yn y Llythyrdy ymuno ag adran y peirianwyr o'r fyddin.