BRYNCROES MARW.
Dydd Mercher, ym Mynwent Meillteyrn, angladd anghyhoedd, rhoddwyd gweddillion Mr Edward Roberts, Ty Capel, Tŷ Mawr, i lawr yng nghladdfa'r teulu, ac efe yn 86 mlwydd oed.Ymneilltuodd yr ddiweddar o'r swydd casglydd treth yr incwm a gyflawnodd am flynyddau lawer. Hefyd ydoedd clerc yr hen Fwrdd Ysgol (Und.) Aberdaron, bron o'i gychwyniad hyd yr adeg y trosglwyddwyd ysgolion y wlad i Gyngor Addysg y Sir.
Pan yn byw yn Nhy'n y coed, Sarn, bu'r teulu yn lletya cewri y pulpud Methodistiaid yn yr amser y bu pregethu teithiol yn uchel ei fri yng Nghymru.