DIWEDD HEN WRAIG.
Brydnawn Iau bu Mr O. Robyns Owen (crwner) yn cynal dau gwest yn Lleyn.Cynhelid yr ymchwiliad cyntaf i achos marwolaeth Ann Williams, Fantol, Bryncroes, yr hon a gafwyd wedi boddi mewn llyn o ddwfr ger y tŷ.
Collwyd hi o'r ty ychydig amser wedi brecwast, a phan aeth ei mab i chwilio amdani canfuwyd hi a gwyneb a'i waered yn y llyn.
Dychwelwyd rheithfarn o "Cafwyd wedi boddi." Yr oedd yn 66 mlwydd oed.
Yr Herald Gymraeg 30/11/1915
Trengholiad yn Lleyn.
Cynhaliwyd trengholiad gan Mr O. Robyns Owen, y crwner, yn Lleyn ddydd, Iau diweddaf, yn Bryncroes, ar gorff Ann Williams, y Fantol, yr hon ganfuwyd gan ei mab wedi boddi mewn llyn o ddwr ger llaw y tŷ."Caed wedi boddi" oedd y rheithfarn basiwyd.