BRYNCROES MARW.
Wedi cyraedd ohono ei 89 mlwydd oed, claddwyd gweddillion yr hen gyfaill diddan Mr Thomas Roberts, Frondeg, ddydd Sadwrn, Mai 16.Fel dosbarthwr yr "Herald Cymraeg" o'i gychwyniad hyd yn awr dylai gael lle ar ei dudalenau i groniclo ychydig o'i hanes. Bu am flynyddoedd cyntaf ei oes yn gweinidogaethu gyda'r ffermwyr yn yr ardal yma ac yng Nghlynnog, a thra yn y lle olaf oblegid ei duedd darllengar, daeth i gydnabyddiaeth ag Eben Fardd, ac yn gyfaill mynwesol iddo. Yr oedd yn, llenor gwych, yn Gymreigydd coeth, ac enillodd lawer o wobrwyon fel traethodwr mewn cyfarfodydd llenyddol ar hyd a lled y wlad. Ymddangosodd rhai ohonynt o dro i dro yn yr "Herald."
Yr oedd yn hynafiaethydd da, a gallai adrodd darnau meithion o bregethau yr hen bregethwyr enwog a grymus fu'n siglo Cymru. Yr oedd y diweddar M. T. Morris, U.H., Caernarfon, yn hoff iawn o'i gwmni, a dygodd allan trwy y wasg lyfryn destlus o hanes bywyd tad Mr Morris, a chynorthwyodd y Parch H. Hughes Bryncir, i gasglu cynwys ei lyfr, "Hanes Methodistiaid Lleyn ac Eifionydd." Bu yn ddiweddarach ar ei oes yn llyfrwerthydd ar hyd a lled y wlad, a gwnaeth ddaioni dirfawr yn y cyfeiriad yma.
Daeth cynhulliad lluosog a pharchus i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn J. Evans (A.) Hebron, a T. Jones, B.A. (M.C.), Brynmawr, a phregethwyd pregeth angladdol iddo ym Mryncroes, gan y Parch W. Evans (A.) Aberdyfi. Heblaw y gweinidogion hyn gwelsom yn y dorf Miss Roberts, Llanrwst; Mri John Owen, Caernarfon John Jones a Miss Jones. Penygroes, etc. Gwasanaethid yn yr Eglws ac wrth y bedd gan y Parchn J. Lodwick Davies, M.A.. Ficer, a T. Jones, B.A.
Ein cydymdeimlad a'i berthynasau yn eu galar.
Gohebydd.