WEDI MARW.
Foreu dydd Mercher, cafwyd Mr George Law; glanhawr clociau, yn farw yn ei wely. Ni theimlai yn dda yn flaenarol i hyn. Yr ydoedd dros ei 70 mlwydd oed.Cymeriad diddorol - Sais (neu Ysgotyn), ni wyddis yn iawn ei haniad, wedi dysgu Cymraeg. Flynyddau yn ôl yr oedd yn adnabyddus iawn trwy lawer cylch yng Ngogledd Cymru, yn enwedig ym Meddgelert a Garn Dolbenmaen.
Yr oedd yn blaen a didderbyn wyneb, yn hollol onest, mynnai dalu i bawb ei ddyled.