I'R BEDD.

Hebryngwyd gweddillion y cyfaill Mr. J. Jones. Croesfryn, i fynwent Bryncroes, ddydd Gwener. Bu farw ddydd Mawrth, y 6ed o Chwefror, yn 53 oed. Cafodd angladd parchus a lluosog.

Bu i'w briod ei ragflaenu ers ychydig o wythnosau yn ôl.

Hanai o deulu llengar. Yr oedd ei dad yn ymgomiwr swynol, ac yn Ysgrythyrwr meistrolgar. Yr oedd yntau o duedd lenyddol gref, a bu yn godymwr rai gweithiau ar y maes hwnw. Yr oedd yn gymeriad hoffus iawn gan bawb.

Gadawodd ar ei ôl ddau fab a merch, a pherthynasau a llu o gyfeillion mewn tristwch.

Yr Herald Gymraeg 20/02/1917