MARW CHARLES WILLIAMS, Y FELIN.

Cymerodd hyn le boreu Mercher, yntau hefyd wedi cael cystudd maith. Bu farw yn yr oedran cynar o 34ain.

Yr oedd yn aelod ffyddlon a gweithgar gyda phob adran yn Eglwys Salem M.C., Sarn, a theimlir yn chwith iawn ei golli o'r gwahanol foddion.

Hebryngwyd ei weddillion y dydd Sadwrn dilynol gan nifer o'i berthynasau a chymydogion i fynwent Bryncroes.

Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch T. J. Jones, y gweinidog, ac yn yr eglwys gan y Parch J. Lodwig Davies, rheithor.

Y mae iddo briod a thri o blant bach yn aros ar ei ôl gyda pha rai y mawr gydymdeimlir yn eu galar dwfn.

Yr Herald Gymraeg 10/08/1915