LLYS SIROL PWLLHELI.
Cynhaliwyd yr uchod ddydd Gwener, gerbron y Barnwr Ivor Bowen.AMAETHWYR CYFEILLGAR.
Hawliau David Jones, Lodge, Trallwm, y swm o 10p. oddiar Robert Jones, Carnguwch Fawr, am drespas oherwydd fod ei wartheg wedi mathru cae yd iddo gan achosi colled fawr iddo.Croeshawlia'r diffynydd y swm o 12p. 10s. oddiar yr achwynydd am golled y a wnaeth ei ddefaid ar ei adladd. Dywedodd y Barnwr fod yr achos yn un o gryn ddiddordeb. Yr oedd y tystion ar y ddwy ochr yn dyweyd eu bod yn gyfeillion mawr, ac felly methai ddeall pam na fuasai'r achos wedi ei setlo heb ddod i'r llys.
Rhoed y gwaith arno ef i setlo'r achos, a rhaid oedd iddo fod yn bur ofalus i beidio aflonyddu ar y teimladau da oedd yn bodoli cydrhyngddynt. Ymhellach, nid oedd yr un o'r tystion yn barod i ddweyd beth oedd gwir swm y golled.
Yr oedd yn dyfarnu 10p. i'r achwynydd a 4p. i'r diffynydd. a hyderai'n fawr na fyddai i'w ddyfarniad effeithio ar y cyfeillgarwch oedd yn bod rhyngddynt (chwerthin)