LLITHFAEN MARW.

Ddydd Mawrth, Ebrill 30, bu farw Mrs Ann Roberts, anwyl briod Mr. D. Roberts, Tynymynydd, Carnguwch, ar ôl maith waeledd yn 80 mlwydd oed.

Genedigol oedd o Landdeiniolen, a bu'n cadw Temperance Hotel yn Bangor Street, ac wedi hynny y Bull's Head Inn, Caernarfon, a bu am ysbaid yn byw yn Lerpwl, lle mae Mr. David Roberts ar hyn o bryd.

Ymadawodd a'r fuchedd hon yn dawel gan ddangos yn eglur i'w merch, yr hon oedd gyda hi hyd y diwedd, ei bod yn myned i'r wlad well.

Claddwyd yng nghladdfa'r teulu (yn ôl ei dymuniad) yn Llanddeiniolen, Mai 7. Roedd yn aelod dichlynaidd o eglwys M.C. Llwyndyrus.

Yr Herald Gymraeg 21/05/1918