LLYS SIROL PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mawrth gerbron y Barnwr W. Evans.

DEFAID YN TRESMASU.

Hawliai, Owen Griffith Roberts, Blaenau Llithfaen, y swm o 2p 5s oddiar ei gymydog Thomas Ellis, Carnguwch Bach, am fod ei ddefaid yn tresmasu ar ei dir.

Croeshawliai yr atebydd y swm o 39s. am fod defaid yr hawlydd yn tresmasu arno yntau, a 12s., sef haner y draul, o osod llidiart ar y terfyn rhwng y ddwy fferm.

Ymddangosodd Mr. Cradoc Davies ar ran y diffynydd, yr hwn a addefodd fod ei ddefaid wedi myned trosodd i dir yr hawlydd. Ar yr un pryd honai fod defaid yr hawlydd yn dod dros yr un clawdd i'w dir yntau.

Dywedodd yr hawlydd fod tua 40 o ddefaid y diffynydd yn dod drosodd i'w dir, ac yn difetha y pytatws a'r ceirch. Nis gallai ei ddefaid ef dresmasu ond ar fynydd y diffynydd yn y gauaf gan nad oeddynt yno yn yr haf.

Dywedodd Mr. Davies fod deugain o ddefaid yr hawlydd yn dod i'w dir yntau, ac nid oedd dim i'w rhwystro gan nad oedd gwifren ar y clawdd.

Awgrymodd y Barnwr fod y partion yn cytuno i gydosod ffensin ar y terfyn. Dywedodd Mr. Davies fod y diffynydd wedi awgrymu hynny ond fod yr hawlydd wedi gwrthod. A chan fod Ellis yn aelod yn y capel lle yr oedd Roberts yn ddiacon yr oedd wedi anfon i geisio ganddo adael y mater i gyflafareddwr, ond nid atebodd. Dadleuai yr hawlydd nad oedd yn gweled fod angen iddo ef ddwyn y draul o roddi ffensin gan mai trwy y llidiart yr oedd ei ddefaid ef yn myned pan adewid ef yn agored.

Awgrymodd y Barnwr yn chwareus fod gweinidog yr eglwys i eistedd gydag ef i drafod y mater. Yr oedd yn amlwg fod gan y ddwy ochr gwyn, ac yr oedd yn resyn na buasent yn gallu cytuno heb ddod i'r llys. Credai ef y buasai tipyn o wire yn gwneyd y tro pe bai y partion yn cytuno.

Gohiriodd yr achos er rhoddi cyfleusdra iddynt i ddod i gyd-ddeall a'u gilydd.

Yr Herald Gymraeg 17/08/1915


Llys y Man Ddyledion Pwllheli.

DAU GYMYDOG A'U DEFAID.

Erlynid Thomas Ellis, Carnguwch Bach, gan Owen Griffith Roberts, Blaenau, Llithfaen gŵr y fferm agosaf am y swm o 2p. 5s sef iawn am fod defaid y diffynydd fel yr honir yn trespasu ar ei dir.

Gofynai Thomas Ellis drachefn 1p. 10s am yr haerai fod y defaid Owen G. Roberts yn trespasu ar ei dir yntau.

Dywedodd Mr Cradoc Davies, yr hwn ymddangosai ar ran y diffynydd, yr addefai Thomas Ellis, fod ei ddefaid yn mynd trosodd i dir ei gymydog, ond yr oedd ei ddefaid yntau yn dod trosodd i'w dir ef. Defaid mynydd oeddynt, ac nid oedd modd eu rhwystro rhag mynd tros y wal gerrig onibae fod fencing ami.

Yr oedd y diffynydd wedi cynyg gwneud hyny ar yr haner gyda'r erlynydd, ond gwrthododd. Ni wnaeth unrhyw sylw chwaith o lythyr y diffynydd pan gynygiai i'r mater gael ei setlo gan ganolwr. Methai yr erlynydd a gweled fod angen iddo ef fynd yn rhanog i godi fencing, gan nad ai ei ddefaid ef tros y wal eithr trwy y llidiart pan adewid hi yn agored.

Dywedodd y Barnwr ei bod yn amIwg fod gan y ddau le i gwyno, ac ymysg pethau cymharol ddibwys bywyd nid oedd dim mwy blin i'w oddef na bod tir dyn yn cael ei drespasu. Os na rhodid rhyw fath o fencing ar y wal byddai'r trespas yn parhau. Yr oedd y diffynydd yn ffoddlon rhoi rhwydwaith gwifrog i fynu, ond gwell fuasai gan yr erlynydd gytuno i godi gwal uwch.

Yn y diwedd gohiriwyd yr achos i roi cyfle i'r ddau geisio dod i gytundeb heddychol.

Yr Udgorn 18/08/1915


LLITHFAEN MARW.

Gyda phrudd-der dwys a galar trist y cofnodwn farwolaeth y brawd Thomas Ellis, Carnguwch Bach, ym mhlwyf Carnguwch. Dioddefodd ofid a loesion ei gystudd chwerw yn dawel, dawel, nes rhedeg o fyd y poen ar fore Gwener, y 15fed o Dachwedd, 1918, a chladdwvd ef nawn Mawrth dilynnol, Tachwedd y 18ed, ym mynwent Carnguwch, mynwent ei henfro, ar diriogaeth ei annedd, yr hen erw fud y rhodiodd amgylch-ogylch iddi, trwy gydol ei oes.

Amaethon boddlon, hynaws a charedig oedd, ac iddo lu o gyfeillion ac edmygwyr ym mhob cwr o'r wlad. Trwy ei fasnach deuai ar draws pob dosbarth o wyr, ond enillai gyfeillion yn mhobman.

Fro Carnguwch! drych o dristwch
    Wyt ti, yn awr, i mi;
Dwys ddagrau ing a galar
    Yw'r gwlith i'th fynwes di.
Ti gollaist hen gymydog
    A fagwyd ar dy fron;
Dy galon lam nes gwelwi,
    Wrth deimlo'r golled hon.

Y gwynt yng nghangau'th goedydd
    Gwynfana ar bob tu;
Dy ddolydd a dy ffriddoedd
    Alarant yn eu du.
Wyt unig iawn, ath afgof
    Mor fyw, nes creithio'th wedd;
Dy eilun gwiw Tom Ellis,
    A glowyd yn oerlaw bedd.

Amaethon boddlon, diwyd,
    Rhinweddol ydoedd ef;
Si odlau y distawrwydd
    Oedd swyn ei wyladd lef.
Ei fywyd oedd mor addfwyn
    A bywyd praidd y bryn,
Ond gwywodd yntau'r tyner
    Yn ngaeaf Llwng. y Glyn.

Bro'i febyd fu ei bulpid
    I seinio rhin a moes;
Bro'i febyd fu ei aelwyd—
    Hon gafodd orau'i oes.
Mud wyliodd eglwys
    Carnguwch Ei "fywyd" tros y Gwir,
Ac heddyw gwylia'r eglwys
    Ei "lwch" yng ngro ei thir.

Ni raid i'w hen fro gwynfan,
    Na'i deulu wylo mwy:
Mynd adref wnaeth; mynd adref
    I hafaidd fro ddi-glwy.
Mynd adref o fyd adfyd;
    Mynd adref at ei Dduw
Mynd adref o wlad "marw;"
    Mynd adref mwy i "fyw."

Yr Herald Gymraeg 14/01/1919