LLYS SIROL PWLLHELI.
Cynhaliwyd ddydd Mawrth gerbron y Barnwr W. Evans.DEFAID YN TRESMASU.
Hawliai, Owen Griffith Roberts, Blaenau Llithfaen, y swm o 2p 5s oddiar ei gymydog Thomas Ellis, Carnguwch Bach, am fod ei ddefaid yn tresmasu ar ei dir.Croeshawliai yr atebydd y swm o 39s. am fod defaid yr hawlydd yn tresmasu arno yntau, a 12s., sef haner y draul, o osod llidiart ar y terfyn rhwng y ddwy fferm.
Ymddangosodd Mr. Cradoc Davies ar ran y diffynydd, yr hwn a addefodd fod ei ddefaid wedi myned trosodd i dir yr hawlydd. Ar yr un pryd honai fod defaid yr hawlydd yn dod dros yr un clawdd i'w dir yntau.
Dywedodd yr hawlydd fod tua 40 o ddefaid y diffynydd yn dod drosodd i'w dir, ac yn difetha y pytatws a'r ceirch. Nis gallai ei ddefaid ef dresmasu ond ar fynydd y diffynydd yn y gauaf gan nad oeddynt yno yn yr haf.
Dywedodd Mr. Davies fod deugain o ddefaid yr hawlydd yn dod i'w dir yntau, ac nid oedd dim i'w rhwystro gan nad oedd gwifren ar y clawdd.
Awgrymodd y Barnwr fod y partion yn cytuno i gydosod ffensin ar y terfyn. Dywedodd Mr. Davies fod y diffynydd wedi awgrymu hynny ond fod yr hawlydd wedi gwrthod. A chan fod Ellis yn aelod yn y capel lle yr oedd Roberts yn ddiacon yr oedd wedi anfon i geisio ganddo adael y mater i gyflafareddwr, ond nid atebodd. Dadleuai yr hawlydd nad oedd yn gweled fod angen iddo ef ddwyn y draul o roddi ffensin gan mai trwy y llidiart yr oedd ei ddefaid ef yn myned pan adewid ef yn agored.
Awgrymodd y Barnwr yn chwareus fod gweinidog yr eglwys i eistedd gydag ef i drafod y mater. Yr oedd yn amlwg fod gan y ddwy ochr gwyn, ac yr oedd yn resyn na buasent yn gallu cytuno heb ddod i'r llys. Credai ef y buasai tipyn o wire yn gwneyd y tro pe bai y partion yn cytuno.
Gohiriodd yr achos er rhoddi cyfleusdra iddynt i ddod i gyd-ddeall a'u gilydd.
Yr Herald Gymraeg 17/08/1915
Llys y Man Ddyledion Pwllheli.
DAU GYMYDOG A'U DEFAID.
Erlynid Thomas Ellis, Carnguwch Bach, gan Owen Griffith Roberts, Blaenau, Llithfaen gŵr y fferm agosaf am y swm o 2p. 5s sef iawn am fod defaid y diffynydd fel yr honir yn trespasu ar ei dir.Gofynai Thomas Ellis drachefn 1p. 10s am yr haerai fod y defaid Owen G. Roberts yn trespasu ar ei dir yntau.
Dywedodd Mr Cradoc Davies, yr hwn ymddangosai ar ran y diffynydd, yr addefai Thomas Ellis, fod ei ddefaid yn mynd trosodd i dir ei gymydog, ond yr oedd ei ddefaid yntau yn dod trosodd i'w dir ef. Defaid mynydd oeddynt, ac nid oedd modd eu rhwystro rhag mynd tros y wal gerrig onibae fod fencing ami.
Yr oedd y diffynydd wedi cynyg gwneud hyny ar yr haner gyda'r erlynydd, ond gwrthododd. Ni wnaeth unrhyw sylw chwaith o lythyr y diffynydd pan gynygiai i'r mater gael ei setlo gan ganolwr. Methai yr erlynydd a gweled fod angen iddo ef fynd yn rhanog i godi fencing, gan nad ai ei ddefaid ef tros y wal eithr trwy y llidiart pan adewid hi yn agored.
Dywedodd y Barnwr ei bod yn amIwg fod gan y ddau le i gwyno, ac ymysg pethau cymharol ddibwys bywyd nid oedd dim mwy blin i'w oddef na bod tir dyn yn cael ei drespasu. Os na rhodid rhyw fath o fencing ar y wal byddai'r trespas yn parhau. Yr oedd y diffynydd yn ffoddlon rhoi rhwydwaith gwifrog i fynu, ond gwell fuasai gan yr erlynydd gytuno i godi gwal uwch.
Yn y diwedd gohiriwyd yr achos i roi cyfle i'r ddau geisio dod i gytundeb heddychol.