Tribynlys Lleyn.

Cynhaliwyd dydd Gwener. Yr oedd yn bresenol Mri Maurice Jones (cadeirydd), J. Hughes Parry, John Pierce, J. R. Jones, William Roberts, Parch. T. E. Owen, Mr. Hugh Pritchard (clerc), Mr. Yale (cynrychiolydd milwrol), Mr. Daniel Jones (cynrychiolydd amaethyddol), a Capten Thomas, Bangor.

ESGUSODIAD CYNGHORYDD.

Apeliai Mr. Yale yn erbyn esgusodiad amodol i'r Cynghorydd John Pritchard, Blaenau, Llithfaen.

Eglurai Mr. Yale fod y Swyddfa Ryfel wedi eu hysbysu fod Pritchard yn gweithio yn y chwarel ar Hydref, 1915, fel gwneuthurwr setts, ac nad oedd yn cynorthwyo ei dad ar y fferm. Dywedai Pritchard fod rhywun wedi cam arwain y Swyddfa Ryfel yn ddirfawr. Yr oedd ef yn gyd-denant a'i dad, a byddai yn gweithio llai na haner ei amser yn y chwarel.

Bu yn yr America wyth mlynedd yn ôl, ond priododd ei frawd a'i chwaer oedd gartref, a bu yn rhaid iddo yntau ddod gartref i gynarthwyo ei dad ar y fferm. Yr oedd yn gyd-denant a'i dad, a phan y byddai yn gweithio yn y chwarel byddai yn talu 5s. y dydd i ddyn am weithio ar y fferm. Mesurai y fferm 41 o aceri, ac yr oedd yn cymeryd llawer o dir arall. Yr oedd yn aredig chwe' acer.

Mr. Yale : A ydych yn foddlon i aredig rhagor o'r tir os y cewch esgusodiad ?

Mr. Pritchard : Bydd imi aredig y cwbl os mynwch (chwerthin) Ategai Mr. Pritchard ei fod wedi colli nerth dau o fysedd ei law trwy ddamwain, ac yr oedd 72 o haels goes.

Mr. Yale : Yr ydych wedi cael profiad hefo saethu (chwerthin).

Esgusodiad amodol.

Yr Udgorn 31/01/1917