LLITHFAEN CYDNABOD GWROLDEB.
Mae Private Robert Griffiths, mab Mr. William Griffiths, Bryndirwest, Llithfaen, wedi ennill y D.C.M. am ei wroldeb ar faes y gwaed yn Ffrainc.Disgynodd llong awyr yn ei ymyl. Yr oedd y llong ar dan a'r swyddog yn rhwymedig ynddi. Llwyddodd Private Griffiths i'w ryddhau ac i achub ei fywyd er mawr berygl iddo ei hun.