Llys Ynadol Pwllheli. Ddydd Mercher, Chwefror 11eg.

Gerbron Cyrnol Lloyd Evans (yn y gadair) yr Henaduriaid W. Anthony, Maurice Jones, a G. Hughes-Roberts; Dr. S. W. Griffith, J. G. Jones, Ysw., Claude L!oyd Edwards, Ysw., Dr R. Jones-Evans, a J. Hughes-Parry, Ysw.

Tynu'n ôl.

Gwysid William Owen Moore, Graianfryn, Ceidio, gan Mr Hugh Pritchard, clerc Bwrdd Gwarcheidwaid Pwllheli, am esgeuluso cyfranu tuag at gynal ei fam, yr hon dderbyniai 11s. yr wythnos o elusen blwyfol.

Gwnaed archeb am swllt yr wythnos yn erbyn Moore cyn iddo ef a Mr George, ei gyfreithiwr, ddod i'r llys, ac ar apeliad Mr W. George ystyriwyd y mater. Dywedai fod y diffynydd yn talu y rhent a'r dreth dros ei fam, a hefyd yn prynu glo a phethau eraill iddi. Os y gwneid archeb am hyd yn oed swllt yn ei erbyn, nis gallai dalu y rhent hefyd.

Dywedai y diffynydd y byddai iddo ofalu am dalu'r rhent yn gyson trosti, ac oherwydd hyny tynodd Mr Pritchard y wys yn ôl.

Cytunodd y Fainc a'r cais.

Yr Udgorn 18/02/1914