SYRTHIO DRWY FFENESTR.
Dydd lau, bu Mr. O. Robyns Owen, yn cynal ymchwiliad i achos marwolaeth Mr. Robert Owen, Ty Newydd, Ceidio, hen amaethwr adnabyddus ar fin ei 88 mlwydd oed.Tystiai Owen Owen, ei fab, iddo gael ei dad wedi syrthio o ffenestr y llofft yn ei wisg nos i'r ardd. Yr oedd i raddau yn anymwybodol a bu farw ymhen yr wythnos.
Y tebygolrwydd ydoedd iddo agor y ffenestr i edrych ansawdd y tywydd ac i ysgafnder ddod i'w ben. Dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol mewn canlyniad i'r godwm.