MARW.
Drwg gennym gofnodi marwolaeth Mrs Ellen Williams; anwyl briod Mr. Owen Williams, Tyddyn Baoh, yr hon a fu farw ar ôl byr waeledd, Ebrill 15fed, yn 66 mlwydd oed.Daeth torf lluosog i hebrwng yr hyn oedd farwol ohoni i Fynwent Peniel yr lau canlynol. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan Mr. Williams, Capel Helyg ynghyd a'i gweinidog, Mr. Evans, ac ar lan y bedd, gan Mr. Pritchard, Nefyn. Gweddiwyd yn deimladwy iawn gan Mr. Prydderch, Pwllheli.
Yr oedd yn chwaer hynod o grefyddol a hoffus gan bawb. Yr oedd nodau y 15fed Salm yn amlwg ar ei chymeriad. Dylanwada ei chrefydd ar yr aelwyd gartref yn ogyatal ag yn yr ardal. "Y cyfiawn a flodeua fel palmwydd, ac a gynydda fel cedyrwydden." Felly yr oedd y chwaer hoffus hon. Teimlir chwithdod mawr ar ei hol yn eglwys Peniel.
Cydymdeimlir yn fawr a'i phriod yr hwn sydd wedi ei adael yn unig yn ei hen ddyddiau
"Gorphwys bellach chwaer anwylaf"
Nid oes niwed yn y glyn,
Iesu'th Brynwr a ddewisaist
A'i cysegirodd it cyn hyn
Yn dy lwch mae llw'r cyfamod
Tra gorweddi yn y llawr
Rhaid fydd cael pob un i fyny
I hardd brydferthu'r daml fawr.
Yr Herald Gymraeg 07/05/1918
MARW.
Drwg genym gofnodi marwolaeth Mrs. Ellen Williams, anwyl briod Mr. Owen Williams, Tyddyn Bach, yr hon a fu farw ar ôl byr gystudd, yn 66 mlwydd oed.Y dydd Iau canlynol daeth torf luosog i hebrwng yr hyn oedd farwol ohoni i fynwent Peniel. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. T. Williams, Capel Helyg, ynghyd a'i gweinidog, Mr Evans, ac ar lan y bedd gan Mr Pritchard, Nefyn. Gweddiwyd yn deimladwy iawn gan Mr Rhydderch, Pwllheli.
Yr oedd yr ymadawedig yn chwaer hynod o grefyddol a hoffus gan bawb. Teimlir chwithdod mawr ar ei hol yn eglwys Peniel.
Cydymdeimlir yn fawr a'i phriod, yr hwn sydd wedi ei adael yn unig yn ei hen ddyddiau, yn nghanol ei brofedigaeth chwerw. Duw fo'n gysgod iddo yn nydd ei adfyd.