MARW BLAENOR.

Mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth y blaenor adnabyddus, Mr Owen J. Penny, Ceidio Bach, yr hyn a gymerodd l ddydd Gwener, Gorffenaf yr 2il.

Yr oedd yn ddyn da a defnyddiol i'w ardal ac yn grefyddwr selog.

Claddwyd ef yn mynwent Peniel, Ceidio, y dydd Mawrth dilynol.

Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parchn. J. Rhydderch, Pwllheli, a E. T. Evans, Morfa Nefyn, ac wrth y bedd gan y Parchn. R. M. Edmunds, Llanbedrog; Hugh Davies, Abererch; John Hughes (M.C.), Edeyrn, a John Rhydderch.

Yr Udgorn 14/07/1915