YR YNADLYS.
Cynhaliwyd dydd Mercher, gerbron Dr. Gwenogfryn Evans, Mri. W. Thomas a J. Hughes Parry.Gyru Cerbyd heb Drwydded.
Cyhuddai Mr. J. T. E Jones, swyddog y trwyddedu, Griffith Roberts, Bron Heulog, Ceidio, o ddefnyddio cerbyd heb drwydded.Tystiai yr Heddwas Evans, Morfa Nefyn, iddo weled y diffynydd yn gyru cerbyd ger Pwllheii ar Mai 22ain heb drwydded, ac yn gyru cerbyd arall ar Mehefin 28ain heb drwydded. Cododd drwydded ar Gorphenaf 1af yn Nefyn.
Dirwywyd ef i 5s. yn mhob achos.