Brodor o Glynnog.

Fair Haven. Vermont.

Ddydd Mawrth. Chwefror 8, rhwng cyfnos a gwawr, bu farw Solomon W. Thomas yn 49 mlwydd oed. Enedigol ydoedd o Bryscyni Ganol, Clynnog, a daeth i'r wlad hon oddeutu saith mlynedd ar hugain yn ôl gan ymsefydlu yn nyffryn y Mettowee.

Dwy flynedd ar hugain yn ôl priododd â Maggie Parry. Fair Haven a ganwyd iddynt ddau o blant. pa rai sydd heddyw wedi eu hamddifadu o dad tyner a gofalus.

Dydd Iau, daeth tyrfa fawr i'w hebrwng tua'r gladdfa. Cludwyd ei arch, pa un sydd wedi ei gorchuddio â blodau gan ei gydaelodau perthynol i'r "Modern Woodmen." a chymerwyd rhan ar lan y bedd ganddynt. Gwasanaethwyd yn y tŷ, y capel ac ar lan y bedd, gan y Parchn John W. Morris a John D. Owen a'r ysgrifenydd. Canwyd rhai o'i hoff emynau gan gôr o dan arweiniad Hugh H. Owen. Rhoddwyd yr hyn oedd farwol ohono i orffwys yn Grove Cemetery.

Erys mewn hiraeth dwys, ar ei ôl Mrs Thomas (ei briod), Elizabeth (ei ferch), Norman (ei fab) a dau frawd yr y wlad hon, sef John W. Thomas, Granville, ynghyd ag Evan Watkin Hugh Owen, ac un chwaer yng Nghymru.

Yr Herald Gymraeg 07/03/1916