MARW HEN FRODOR.
Dydd Gwener, Gorphenaf y 7fed, bu farw Mr William Williams, Pantyffynnon, Gyrn Goch. Treuliodd ei oes faith o 91 mlynedd heb fod ond ychydig iawn tu allan i'w gymdogaeth enedigol. Amaethwr caredig a pharod ei gymwynas oedd yr ymadawedig.Yr oedd yn aelod selog yn Sion M.C., ac yn un o golofnau yr Ysgol Sul yn y lle - hen stamp o ysgolorion hon ydoedd - ffyddlon iddi drwy bob tywydd a helynt. Pum' mlynedd yn ôl cafodd "fedal Miss Gee" am ei ffyddlondeb i'r ysgol am faith flynyddoedd ac yr oedd mor falch ohoni ag ydyw ein milwyr o enill y Victoria Cross. Edrychai arn gydag edmygedd gwron.
Hebryngwvd ei weddillion i orphwys ym Mynwent Clynnog, dydd Mawrth, Gorphenaf yr 11eg, gan dyrfa hynod luosog o berthynasau a chyfeillion, o bell ac agos. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn Hywel Roberts (Hywel Tudur) a D. Parry Jones, a gofalwyd am y canu gan John Evans, yn Eglwys St. Beuno gan y curad, y Parch Mr Williams.
Gedy un mab i alaru ar ei ôl, yr hwn gyda'i briod fu yn dirion iawn ohono yn ei hen ddyddiau, gan ofalu amdano yn ffyddlon a charedig.