Diacon am 67 Mlynedd.
Yn Ddiacon am 67 mlynedd Ddydd Sul, bu farw Mr Richard Jones, Clynnog, y diacon hynaf gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru.Yr oedd yn gant oed ond un. Bu'n codi y canu am ddwy flynedd ar bymtheg a thriugain, ac yn flaenor am saith mlynedd a thriugain.
Yr oedd hefyd wedi bod yn dreth gasglydd am ddeng mlynedd a thriugain.
Yr oedd ei dad yn gant a dwy pan fu farw, ei fam yn gant, a'i ddau frawd o fewn ychydig i gant.