CLYNNOG MARW MRS. OWEN, PENARTH.

Gofidus gennym gofnodi marwolaeth Mrs. Owen, gwraig Mr. Hugh Owen, Penarth, yr hyn a gymerodd le ddydd LIun, yn 61ain mlwydd oed.

Cymerodd yr angladd le ddydd Iau yng Nghlynnog. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parchn. O. H. Davies a Dewi Williams, ac fe gynhaliwyd gwasanaeth yn y capel gan y Parchn. J. Owen, M.A., a H. Roberts, Clynnog; ac R. Williams, Baladeulyn.

Gwasanaethwyd yn y fynwent gan y Parchn. W. Williams a J. M. Williams. O'r tŷ i'r capel yr oedd yr angladd yn un preifat, ac o'r capel i'r fynwent yn un cyhoeddus.

A ganlyn oedd trefn yr angladd:

Y cerbyd cyntaf : Dr. E. Roberts. Parchn. Howel Roberta, Dewi Williams, John Owen ac O. H. Davies.

Ail gerbyd : Mri. Hugh Owen, Tommy Owen, Hughie Owen, a T. W. Williams brawd-yng-nghyfraith.

Trydydd cerbyd : Mrs. Williams, Gwynfa; Mrs. Jones, Bodaden; Miss Humphreys, Beaumaris; Mrs. Hughes, Criccieth; a Mrs. Roberts, Chwilog.

Pedwerydd cerbyd : Mrs. Jones, Ty Eiddew; Mrs. Jones, Fron; Mrs. Owen, Engedi; Mrs. Roberts, Lerpwl.

Pumed cerbyd : Mri. John Jones, Llanfaglan W. Jones, Bodaden; Owen Roberts, Penygroes a Lewis, Owen, Lleuarbach.

Chweched cerbyd : Mri. William Jones, Fron, LlanfagIan; Llewelyn Thomas, Awstralia; Thomas Thomas, Caernarfon, a George Brymer.

Yr elorgludwyr oeddynt : Penarth, Mri. Evan Pritchard. R. Roberts, G. W. Parry, a Henry Griffiths; Clynnog, Mri. Richard Jones, Llan- faglan; William Owen, Afonwen, John H. Jones, Bodaden a T. J. Williams. Llanllyfni.

Cariwyd allan drefniadau yr angladd gan Mri. Brymer a Davies, Caernarfon.

Yr Herald Gymraeg 19/03/1918