DAMWAIN GER BRYNAERAU.
LLADD GWAS FFERM.
Taflwyd ardal Brynaerau i fraw mawr ddydd Mercher, gan y newydd fod bachgen ieuangc o'r enw William Thomas, gwas i Mr G. Davies, Hendrebach, wedi cael ei ladd. Ymddengys ei fod yn myned i Benygroes gyda cheffyl a throl ac i'r ceffyl ymwylltio a rhedeg i lawr yr allt sydd yn pasio capel Brynaerau, trodd y drol pan yn ymyl Efail y Cim, ac aeth dros gorph y llanc druan. Bu fyw am ychydig oriau.Yn y cwrdd Eglwysig oedd yn Brynaerau nos y ddamwain, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a rhieni y bachgen. Mab Mr Evan Thomas, Tanygraig, Capel Uchaf, ydoedd; tua 16 oed, ac yn fachgen dymunol. Symudwyd ef i shop ger y capel, lle y derbyniodd bob caredigrwydd ac ymgeledd posibl.