HELYNT MEWN TAFARN.

Yn Ynadlys Pwllheli, ddydd Mercher, cyhuddwyd John Jones, Cilcoed, Clynnog, amaethwr, o fod yn feddw a gwrthod ymadael o dy trwyddedol. Hefyd cyhuddid ef gan Mr. a Mrs. William Toleman, Rival Inn, Llanaelhaiarn, o ymosod arnynt pan yr oeddynt yn ceisio ei droi allan o'r ty. Ymddangosodd Mr. Richard Roberts, Caernarfon, ar ran y diffynydd, yr hwn a wadai y cyhuddiadau.

Tystiodd William Toleman i'r diffynydd ddod i'w dy o ffair Criccieth ar y 30ain o'r mis o'r blaen. Yr oedd yn feddw iawn. Y peth cyntaf a welodd oedd y diffynydd mewn ymdrechfa a'i wraig, ac aeth yntau i'w chynorthwyo. Anfonodd y forwyn i chwilio am yr heddwas a phan ddaeth y forwyn yn ol a dweyd nad oedd yr heddwas ar gael aeth y cyhuddiedig yn saith gwaeth, a gafaelodd yn ei goler gan rwygo ei ddillad. Bu ef a'i briod yn ymladd ag ef am dros awr o amser, ac yna y daeth rhywun i'w cynorthwyo.

Rhoddwyd tystiolaeth gyffelyb gan Mrs. Toleman, a tystiodd Richard Williams, Llechgarau, Llanaelhaiarn, iddo weled ymdrechfa yng nghefn y Rival Inn pan yn pasio i'w gartref. Edrychai y diffynydd fel pe yn feddw, ac aeth ef yno i ryddhau y trwyddedwr a'i wraig o afaelion eu hymosodydd.

Dywedodd Mr. R. Roberts fod y trwyddedwr a'i wraig yn eu gor awydd am gadw trefn dda ar y ty wedi gwneyd cam a'r diffynydd. Yr oedd wedi bod yn ffair Criccieth, ac wedi gwneyd masnach yno ac wedi dod adref yng ngherbyd modur Clynnog gyda nifer fawr o amaethwyr parchus. Aeth i lawr o'r cerbyd ger Fourcrosses i weled baedd gydag amaethwr arall.

Tystiodd y diffynydd iddo fyned i'r dafarn trwy ddrws y ffrynt ac nid trwy ddrws y cefn fel y dywedodd Mrs. Toleman, a chyn iddo fyned ond ychydig gamrau i'r ty rhuthrodd Mrs. Toleman iddo gan geisio ei wthio allan. Yn fuan daeth Mr. Toleman i'r lle i'w chynorthwyo. Gan ei fod yn sobr nid oedd yn foddlon i gymeryd ei drin, felly o ganlyniad ymdrechodd yn eu herbyn. Yr oedd Mrs. Toleman wedi cynig rhoddi cwrw iddo yn y cefn, ond yr oedd ef wedi ei wrthod. Mewn ateb i'r Arolygydd Owen, dywedodd ei fod wedi cael un glasiad o gwrw yn Fourcrosses, a rhyw dri yng Nghriccieth.

Tystiodd Thomas Rees Thomas, Bwlchyffordd, Fourcrosses, ei fod yn teithio gyda'r diffynydd yn y cerbyd modur. Yr oedd yn hollol sobr yn ei farn ef, a rhedodd o'r ffordd i'w yard ef i weled baedd.

Rhoed tystiolaeth gyffelyb gan Robert Williams, Bryn, Fourcrosses; David Jones, Tynycoed, Clynnog a Hugh John Williams, Cefnartho, Clynnog.

Tystiodd Hugh Williams, Tai Newyddion, Trefor, fod y diffynydd wedi cael cwpanaid o de yn ei dy ef ar ol yr helynt yn y Rival Inn, ac yr oedd yn berffaith sobr.

Yr Arolygyd Owen : Y mae y diffynydd yn caru eich merch chwi onid ydyw? Y Tyst : Wel, wir, nis gallaf ddweyd faint y mae yn ei garu arni (chwerthin).

Wedi ymneilltuo am beth amser penderfynodd y fainc i daflu yr achos allan ar daliad y costau.

Herald Gymraeg 21/07/1914


LLYS YR YNADON, PWLLHELI.

Ddydd Mercher. Gorffenat I5fed.- Gerbron Cyrnol Lloyd Evans (yn y gadair) Dr. S. W. Griffith, Dr. Gwenogvryn Evans, Dr R Jones- Evans, C. H. Lloyd Edwards, Ysw.; C. H. Lloyd, Ysw.; Rupert Williams Ellis, Ysw.; J. G. Jones, Ysw., W. W. Griffith, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw.

Cyhuddo o Gythryblu mewn Tafarndy.

Cyhuddid ffermwr ieuanc o Glynnog, John Jones, Cilcoed, o fod wedi ymosod ar Mr a Mrs Toleman, Rival's View, Llanaelhaiarn, ac o fod yn feddw a gwrthod mynd allan pan geisiwyd ganddo.

Dywedai Mr Toleman i'r diffynydd ddod i'r dafarn yn feddw, ac ymddwyn fel dyn gwallgof pan wrthodwyd roi diod iddo. Creai helynt anghyffredin, meddai, a buwyd am oddeutu awr yn ceisio ei gael allan o'r tŷ. Yr oedd ei iaith hefyd yn warthus.

Mewn amddiffyniad honwyd fod Mr a Mrs Toleman wedi rhuthro ar y diffynydd gynted ag y daeth i'r tŷ a'i yru allan oddiyno. Yr oedd y dyn yn hollol sobr, meddai ef, ac ni wnaeth unrhyw ymgais i daro'r gŵr na gwraig y tŷ.

Galwyd tystion, y rhai ddywedent eu bod gyda'r diffynydd y diwrnod hwnw a'i fod yn holl sobr yn eu barn hwy.

Penderfynodd y Fainc daflu'r achos allan ar daliad y costau.
 

Yr Udgorn 22/07/1914