COLOFN CARNEDDOG.
ADGOFION HENAFGWR, AC AWGRYM.
Daeth y nodyn a ganlyn oddiwrth yr hen lenor Mr. Gruffydd Thomas, Swan, Clynnog mawr. Ar adeg, fe'm tarewir yn drwm gan bangfeydd o hiraeth dwys am hen fro anwyl fy mebyd, sef Llangybi, yn Eifionydd. Cefais ymosodiad trwm o hono yr wythnos yma, bron a fy llethu. Yr oedd fy nheimladau mor ddrylliog nes yr oeddwn yn methu yn lan a rhoi mynegiad i bwrpas ohonynt. O dan rym fy hiraeth, cyfansoddais y penhillion cyffredin hyn. Nid wyf yn honi bod yn llawer o fardd, gwell gennyf hynafiaethau.Byddaf yn wir ddiolchgar i chwi os y medrwch eu rhoddi i mewn yn eich colofn yn yr "Herald." Y mae y cwbl "er cof cu" am "Llangybi lan," fy hen-hen fro yn Eifionydd:-
MYFYRDOD HIRAETHUS AM ADGOFION MEBYD.
Pan yn fachgen awn i'r ysgol
I Lanarmon yn y wlad,
Y pryd hyny o dan ofal
Anwyl fam ac anwyl dad.
Cofio'r wyf y funud yma
Am y ffordd o gam i gam,—
Llawer gwaith y bum anfoddlon
Ond fy nanfon wnelai mam.
Heibio Pont yr Hendre' Garci
A'r Ty Newydd-gyntaf dy,
Wedyn byddem cyn pen 'chydig
Wedi pasio y Plas Du.
Ac ym mhellach fe'm danfonai
Heibio'i darw Gelli Gron,
O mor fyw y troion yma
Yn fy nghof y funud hon.
Wedi pasio tarw'r Gelli
Byddai imi 'n "canu'n iach"
Gan ddywedyd wrth fy ngadael
"Dos i'r ysgol Gruffydd bach."
Cyn pen chydig ar ol hyny
Cawn fy hun a chalon iach"
Wedi pasio Lon Bryn Penrhyn
Ac yn ymyl Pencoed Bach.
Pasiwn wedyn Lon Bryn Caled,
Heibio'r Orsedd Bach a'r Ffos,
Wedyn heibio wal y fynwent
Ac i'r ysgol at Jon Jos.
Er fy symmud gan Ragluniaeth
O fro mebyd yn ei thro
Mae darluniau'r fro yn hongian
Ar barwydydd llwyd fy ngho.
GRUFFYDD THOMAS. Swan, Clynnog Fawr.
Diolch i'r hen lenor am ei ganig gartrefol, orlawn o hiraeth byw. Mae'n debyg iawn i waith hen brydyddion gwlad. Mae rhyw swyn naturiol mewn darnau fel hyn.
Dymunaf grybwyll yma, am ddau draethawd arbenig o waith y llenor o bentref bychan y Swan, sydd ar fin ffordd fawr Clynnog. Bu yn fuddugol ar ddau draethawd llafurfawr a gwerthfawr, y cyntaf yng nghylchwyl lenyddol Brynaerau, 1912, a'r llall yng nghylchwyl Capel Ucha, ddydd Calan 1914. Eu testyn oedd "Y modd goreu i ddadblygu diwydianau ardaloedd Bryn Aerau, a Chapel Uchaf."
Derbyniodd Mr. Griffith Thomas ganmoliaeth mawr am ei waith teilwng, a dyma fy awgrym. Onid oes posibl cyhoeddi y ddau draethawd yn un llyfryn swllt, ac iddo yntau ychwanegu atynt adran newydd ar brif gymeriadau, neu enwogion y ddwy ardal,—hanes hen feirdd, blaenoriaid, a duwiolion, ynghyd a rhai o'r hen garictors gwlad gwreiddiolaf? Buasai y llyfr o werth hanesyddol i blwyf enwog Clynnog Fawr.
Mae'n resyn na chaiff hyn ei gyflawni. Pwy a gynorthwya yr hen lenor? Gwnai gymwynas lenyddol i'w fro.