LLYS SIROL PWLLHELI.
Helyntion Moch Tewion.
Cynhaliwyd dydd Mawrth, gerbron Y Barnwr William Evans.Hawliai William Roberts y swm o 2p. 10s. oddiar Robert Jones, Llwyngwanadl Isaf Clynnog. Eglurodd yr hawlydd ei fod wedi galw gyda'r diffynydd ar Ionawr y 4ydd, a chynyg 4c. y pwys am y moch. Gofynai yntau am 5c. y pwys. Modd bynag, anfonodd y diffynydd lythyr yn ei hysbysu y gallai gael y moch ond iddo anfon i ddweyd gyda throad y post, am 5c. y pwys, ac anfonodd yntau deligram ddydd lau yn ei orchymyn i ddod a'r moch i'w pwyso y dydd Gwener dilynol.
Eglurodd Mr. Cradoc Davies, ar ran y diffynydd. na hu i'r diffynydd dderbyn y teligram am dri diwrnod ar ôl anfon y llythvr. Yr oedd ar y pryd ym ceisio eu gwerthu i ŵr arall yr hwn a gynygiodd fwy o swm am danynt.
Bu i'r diffynydd, modd bynag, eu cynyg i'r hawlydd am y pris a gynygiodd y dyn hwnw, ond ni chymerai nwy.
Dywedodd y Barnwr fod yn amlwg iddo ef nad oedd bargen wedi ei tharo ynglyn a'r moch.
Sylwodd yr hawlydd ei fod ef wedi cael dyfarniad yn ei ffafr tuag ugain mlynedd yn ôl, dan amgylchiadau cyffelyb, ac yr oedd y cyfreithiau yr un o hyd.
Y Barnwr. Ond y mae y barnwyr yn newid (chwerthin).
Mr. Cradoc Davies. Ceir gweinyddiad mwy effeithiol yn awr hefyd (chwerthin).
Taflwyd yr achos allan.