DIM ENW AR Y GOLER.

Yn Ynadlys Sirol Caernarfon, Ddydd Sadwrn, o flaen Mr J. Issard Davies (yn y gadair), Syr T. E. Roberts, Mri Wynn Williams, Thomas Hughes, J. B. Davies, Griffith, J. Roberts, A. W. S. Williams, a, J. C Lloyd. Williams, cyhuddwyd Owen Jones, Hen Gwm, o beidio rhoi ei enw ar goler ei gi.

Ni ymddangosodd y diffynydd. Profwyd yr achos gan yr Heddwas Owen (17).

Dirwywyd y diffynydd i 6s.

Yr Herald Gymraeg 03/08/1915