NEW YORK A VERMONT
Y Ddiweddar Mrs. John Lloyd.
Bu farw Martha Humphreys, gwraig John Lloyd, tra ar giniaw, nos Sabboth, yn ei chartref, 1206 Neilson St. Yr oedd mewn iechyd dipyn yn wael ers peth amser, ond nid oedd dim i ddangos ei bod mewn perygl. O'r galon y daeth yr achos marwol.Yr oedd Mr Lloyd, yn ol ei arfer, wedi myned at yr argraffwaith yn swyddfa'r Utica Daily Press gyda'r nos pan y daeth yr alwad sydyn arno i ddychwelyd.
Ganwyd Mrs. Lloyd, yn ferch i William ac Anna Humphreys, Pwllheli, Sir Gaernarfon, Hydref 14, 1863. Daeth i'r wlad hon a'r ddinas hon yn 1884, ac yma y bu er hyny. Yn 1886, priodwyd hi i John Lloyd. Yr oedd Mrs. Lloyd yn aelod o eglwys Moriah, ac wedi bod yn gwasanaethu yn y cor ers blynyddoedd lawer.
Drwy ei dyddordeb mewn canu, yr oedd yn adnabyddus mewn llawer cylch, ac yn uchel yn marn y cyhoedd.
Heblaw ei phriod hiraethus, gedy i alaru ar ei hol, un mab, John Ambrose Lloyd, New Hartford; dwy ferch, Mrs. Wm. G. Williams a Mrs. Harry Davis, o'r ddinas hon; chwaer, Mrs. Mary Creighton,yn Lloegr; a dau frawd, Thomas Humphreys, yn Nghymru, a William Humphreys, o'r ddinas hon.
Yn angladd preifat Mrs. John Lloyd, brydnawn dydd Mawrth, gwasanaethodd y Parch. John Davles, D. D. Yr elorgludwyr oeddynt: John L. Evans, Evan T. Williams, Hugh T. Jones, William Williams, Henry R. Jones a Thos. R. Jones. Rhoddwyd y gweddillion i orphwys yn y vault yn Forest Hill Cemetery.