Brodor o Bwllheli yn Boddi'n Colchester.
Crybwyllasom mewn rhifyn blaenorol am foddiad damweiniol Mr. Hugh T. Ellis, brodor o Bwllheli, brawd i'r Parch. W. T Ellis, B.A., B.D., yn yr Afon Colne, ger Colchester.Gwasanaethai y trancedig fel darllenwr prawfleni gyda'r Mri Ayre a Spottiswoode, a bu am flynyddau yn gweithio yn swyddfa'r newyddiadur hwn, lle y bu yn brentis.
Yn y trengholiad tystiwyd fod y trancedig wedi mynd i edrych am eneth fach i ddanfon anrhegion Nadolig iddi, ac wrth ddychwel yn ôl collodd ei lwybr a syrthiodd i'r afon. Galwodd y rheithwyr sylw'r Gorfforaeth at y lle peryglus hwnw oedd ar y ffordd. Tystiwyd hefyd yn y trengholiad gan rai o gynrychiolwyr y Mri Ayre a Spottiswoode i gymeriad disglaer eu cynweithiwr. Yr oedd chwech o'i gydweithwyr yn cynrychioli'r meistri a'r gwasanaethyddion yn yr angladd, yr hyn gymerodd le ar Rhagfyr y 24ain, yn mynwent Colchester, y Parch. J. Wat, gweinidog y Wesleyaid yn gwasanaethu.
Gedy'r ymadawedig, yr hwn oedd weddw ac oddeutu haner can mlwydd oed, ddau fab, y naill yn un-ar-bymtheg a'r llall yn ddwy-ar-bymtheg oed.