MARW GWR POBLOGAIDD.

Yr wythnos hon y mae genym y newydd trist o hysbysu marw a chladdu gwr adnabyddus yn y dref, sef Mr Rice Owen Pughe, Chemist, Llanfairfechan, yr hyn a gymerodd le ddydd Mawrth, Chwefror 13eg, ac efe yn 75 mlwydd oed.

Mab ydoedd i'r diweddar Barch. Richard Pughe, Rheithor, Llanddewi, Maesyfed. Ganwyd ef yn Glasfryn, Llanarmon, a daeth i Bwllheli i gadw masnach fel fferyllydd, yn y lle a adnabyddid fel Newborough Vaults, yn y flwyddyn 1869, ac ymadawodd oddiyma yn 1906. Pan yn byw yma gwnaeth ei hun yn ddefnyddiol mewn amryw gylchoedd yn myd crefydd, cymdeithas a gwleidyddiaeth. Bu yn un o Wardeniaid yr Eglwys am flynyddau, a chaed ynddo ŵr pwyllog a medrus wrth gyflawni ei ddyledswyddau swyddogol iddi, yr hon a garai mor angerddol.

Er o ran ei ddaliadau politicaidd yn Geidwadwr, yr oedd digon o'r boneddwr yn gwaelodi ei ddynoliaeth i anwylo eraill oedd yn coleddu syniadau gwrthwynebus i'r eiddo ef. Bu hefyd a llaw gref yn neffroad a datblygiad yr hen dref, a chafodd ei gweled yn dechreu sylweddoli breuddwydion ei bodolaeth. Gellid dweyd am dano ei fod yn foneddwr gwirioneddol o ran ei natur, a'i garedigrwydd yn ddihareb.

Byr fu ei gystwdd, a chwith meddwi fod y galon oedd barod i gymwynas wedi distewi yn angau.

Claddwyd ei weddillion ddydd Sadwrn yn mynwent Llanfairfechan. Gedy ar ôl fab a merch, â'r rhai y mae cydymdeimlad cyffredinol y dref.

Yr Udgorn 21/02/1917