MARWOLAETH.

Drwg gennym orfod cofnodi marwolaeth Mrs. Jane Thomas, priod Mr. Hugh Thomas (gynt or King'shead Street o'r dref hon), yr hyn gymerodd le ddydd Mawrth, yr 22ain cyfisol, wedi maith gystudd, yn 62ain mlwydd oed.

Yr oedd yn adnabyddus a hoffus iawn yn y dref, a gair uchel iddi gan bawb, a chan y "gwirionedd ei hun." Yr oedd yn hynod am ei charedigrwydd, a'i hoff bleser fyddai gweinyddu trugaredd i eraill.

Bu yn aelod ffyddlawn a gweithgar yn eglwys Penlan am flynyddau maith, a theimlid mawr golled ar ei hol pan symudodd i Sheffield. Dioddefodd ei chystudd yn dawel a dirwgnach, ar sail, fel y dywedai "Mi wn i bwy y credais."

Claddwyd ei gweddillion yn mynwent Darnall y Gwener dilynol. Yr oedd nifer fawr o Gymry Sheffield yn bresenol yn yr angladd. Cynrychiolid y teulu o Bwllheli yn yr angladd gan Mr J. H. Roberts, Paragon. Gwasanaethwyd yn y capel ac wrth y bedd gan y Parch. J. Humphreys, gweinidog yr Annibynwyr, Darnall.

Cydymdeimlir yn fawr a'i phriod a'r tri mab John Ebenezer, a William yn eu galar o golli priod a mam ag oedd mor anwyl yn eu golwg. Heddwch i'w llwch hyd y dydd

"Y bydd dorau beddau'r byd
Ar un gair yn agoryd."
 

Yr Udgorn 30/04/1913