LLONGYFARCH.
Da gennym gael llongyfarch Mr. W. Charles Evans, South Beach, a nai i'r Meddyg O. Wynne Griffith, Plas-tanrallt, ar ei waith yn myned yn llwyddianus drwy ei arholiad cyntaf fel meddyg.Ychydig amser yn ôl croniclwyd hanes ei frawd, Mr. Simon G. Evans, ar ei waith yn pasio yn derfynol ei arholiad fel meddyg. Ac wele ei frawd yn prysur ddilyn ei lwybrau.
Meibion yw'r ddau i r diweddar bregethwr, y Parch. W. O. Evans, Nefyn. Y bechgyn oll yn dalentog, yn foneddigaidd, a hawdd eu trin.
Eiddunwn eu llwyddiant eto yn y dyfodol.