GWERTHU CWRW I FILWR.

Yn Ynadlys Pwllheli, ddydd Mawrth. cyhuddwyd Seymour Eady o werthu cwrw yn fan werthol pan nad oedd ganddo drwydded i'w werthu ond yn gyfanwerthol.

Ymddangosodd Mr Fitzroy dros yr erlynydd, ac eglurodd fod y diffynydd yu cadw busnes dan yr enw Evan Roberts and Co. yn Station Square.

Ar Gorphenaf 29ain gwelodd yr heddwas filwr yn myned i mewn i'r masnachdy ac yn dod allan gyda rhywbeth yn ei boced. Aeth ato a chafodd botel beint o gwrw yn ei boced. Aeth at Mr Eady, a chyhuddodd ef o werthu y cwrw i'r milwr. Gwadai ei fod ef wedi gwerthu y botel, ond cydnabyddai fod y botel wedi dod o'r masnachdy.

Yn ddiweddarach aeth Mr Eady at yr Arolygydd Owen a gofynodd beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn. Eglurodd yr arolygydd mai gwerthu potel o gwrw pan nad oedd ganddo hawl i werthu llai na 24 ar y tro. Atebodd Mr Eady ei fod yn gwneyd hyny ers deng mlynedd. Eglurodd y cyfreithiwr fod yr awdurdodau wedi rhoddi rhybuddion allan yn gwahardd gwerthu diod i filwyr ar oriau arbenig, ac yr oedd cwynion fod rhai yn eu cyflenwi a diod yn ystod yr oriau gwharddedig.

Sylwodd y Clerc nad oedd y diffynydd yn cael ei gyhuddo o dori y rheolau hyny. Dywedodd Mr Eady nad oedd ef wedi cael rhybudd yn nghylch y gwaharddiad dan sylw. Rhoed tystiolaeth i'r perwyl uchod gan yr Heddwas Thomas a'r Arolygydd Owen a Mr Peate. Dywedodd Mr Eady fod y botel gwrw wedi ei rhoddi trwy dwyllhoniad. ac amheuai a ydoedd wedi cael arian amdani.

Yr oedd Miss Row oedd yn gofalu am y busnes yn awr yn gwasanaethu gyda Chymdeithas y Groes Goch ac yr oedd yntau yn gorfod myned i Fanceinion i edrych ar ôl busnes arall gan nad oedd y busnes yn Pwllheli yn talu ei ffordd. Yr oedd y milwyr yn pwyso ar y morwynion am ddiod, ac yr oedd wedi troi un forwyn ymaith o'r herwydd. Yr oedd milwr wedi galw yno unwaith ar y Sul, gan ofyn am botel o wisgi i swyddog oedd wedi cael cic gan geffyl, ni roddodd ef mohoni iddo.

Daliai allan nad oedd wedi twyllo swyddog y tollau gan ei fod yn talu 10p am ei drwvdded bresenol. ac ni buasai trwydded i werthu diodydd yn fanwerthol yn costio ond 10p iddo. Yr oedd yn colli arian yn y busnes yn awr.

Yr oedd Miss Row yn gwasanaethul ei gwlad, a gofidiai nas gallai ef wneyd hyny, ond yr oedd yn rhy hen.

Dirwywyd ef i 1p.

Yr Herald Gymraeg 21/12/1915