PRIODAS.

Yng Nghapel Annibynwyr Wymondham, unwyd mewn priodas Mr. David Evan Jones, mab hynaf Mr. a Mrs. Jones, Carnarvon House, Pwllheli, a Miss Addy Taylor, merch henaf Mr. a Mrs. A. E. Taylor. Euston House, Wymondham.

Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei thad, wedi ei gwisgo mewn blue georgette ac yn cario blodeuglwm o arum lilies. Y morwynion oeddynt Miss Helen Taylor (chwaer y briodasferch) a Miss Laura Fisher (cyfnither). Mr. Earnest Barnes oedd y gwas.

Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. Edwin Russell.

Wedi'r briodas mwynhawyd gwledd yn Euston House, ac yn y prydnawn ymadawodd y par ieuanc am Landudno.

Y mae'r anrhegion yn lluosog, ac yn eu mysg 'roedd llestri arian rhoddedig i'r briod ferch gan wasanaethyddion y Swyddfa Ryfel.

Yr Herald Gymraeg 27/05/1919