DAMWAIN ANGEUOL YN CANADA.

Boreu Sadwrn diweddaf derbyniodd y Parch. J. Rhydderch lythyr oddiwrth Mr. David Thomas, o Mahaska, Canada, yn hysbysu fod Mr. William Evans, mab Mr. a Mrs. Richard Evans, Carnarvon Road, wedi cyfarfod a damwain angeuol yno ar y 9fed o Dachwedd.

Dywedai fod y trancedig a chyfaill iddo wedi myned allan i saethu. Gan fod clo ar yr adeilad oedd at eu gwasanaeth yn y goedwig aeth Evans i mewn drwy y ffenestr, a thra yr oedd yn estyn y gwn tarawodd y trigger yn y ffenestr, ac aeth yr ergyd allan ac i'w frest, a bu farw yn mhen deng munud.

Cafodd gladdedigaeth barchus iawn. Yr oedd David Thomas yn gefnder iddo.

Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu profedigaeth.

Yr Udgorn 22/12/1915