YNADLYS PWLLHELI.

Yn Ynadlys Pwllheli, ddydd Mercher, gerbron Cyrnol Lloyd Evans (Cadeirydd), Mri. Maurice Jones, W, Anthony, J. G. Jones, Claude Lloyd Edwards, G. Hughes Roberts, Rupert Ellis, W. Thomas, C. H. Lloyd, Dr. R. Jones Evans, Dr. Gwenogfryn Evans, Dr. S. W. Griffiths, J. Hughes Parry, a W. W. Griffiths.

Cyhuddai Mrs. Mary Barma, Pwllheli, Mrs. Kate Bishop, Abererch Road, o ymosod arni. Ymddangosodd Mr. Hugh Pritchard ar yr achwynyddes a Mr. Cradoc Davies ar ran y ddiffynyddes. Tystiodd Mrs. Barma fod y ddiffynyddes wedi ymosod arni ar y ffordd gan ei thaflu i lawr ger ei gwallt a'i churo â ffon tra yr oedd ar lawr.

Tystiodd yr Arolygydd Owen ei fod wedi gweled breichiau yr achwynyddes dranoeth ar ôl yr ymosodiad ac yr oeddynt yn ddu iawn.

Dywedodd y ddiffynyddes fod yr achwynyddes yn aflonyddu arni gan ddweyd ei bod wedi lladd ei gŵr cyntaf ac yn prysur ladd ei gŵr presenol. Dywedodd hefyd fod ei phlant yn aflan.

Rhwymwyd y ddiffynyddes i gadw yr heddwch am chwe mis ac i dalu y costau. Hefyd dywedodd y Cadeirydd nad oeddynt yn cymeradwyo yr achwynyddes yn ei gwaith yn taenu ystraeon.

Herald Gymraeg 15/09/1914


Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher. Gerbron Mri. J. G. Jones, yn y gadair, C. H. Lloyd Edwards, Maurice Jones, William Thomas, Dr. O. Wynne Griffiths, J. H. Parry.

OFN CYMYDOGES.

Cyhuddai Annie Lloyd, 49, North Street, Mary Barma, 3, Allt y Barcdy, o fygwth gwneud niwed personol iddi. Dywedai Mrs. Barma mai bachgen 14 mlwydd oed i Mrs. Lloyd oedd wedi curo ei bachgen 6 blwydd oed hi, a dywedodd bethau na ddylai yn ei gwylltineb.

Dywedai Mrs. Lloyd fod arni ofn Mrs. Barma. Rhwymwyd y gyhuddedig yn y swm o 5p. i gadw yr heddwch am chwe' mis, ac archwyd iddi dalu 12s. 6c. o gostau.

Yr Udgorn 12/09/1917