WEDI EU CLWYFO.

Yr wythnos ddiweddaf caed hysbysrwydd fod Private Bobbie George Hicks, mab Mr. a Mrs. Joe Hicks, Abererch Road, wedi ei glwyfo ar faes y gad yn Ffrainc.

Deallwn mai yn ei fraich yr archollwyd ef, a'i fod mewn ysbyty yno.

Bachgen clen a rhadlon nodedig yw Bobbie, ac nid rhyw lawer sydd er pan y gorfu iddo ymuno a'r fyddin. Gwelodd mewn byr amser gyni ofnadwy yr Armageddon.

Yr Udgorn 12/06/1918