MARWOLAETH.
Ddydd Sul, ar ôl cystudd byr, bu farw Miss Margaret Jones, merch y diweddar Morris ac Ellin Jones, Abererch Road, a hi yn 62 mlwydd oed.Nid oedd sefyllfa ei hiechyd yn dda ers amser bellach, ond ni ddychmygid fod y diwedd mor agos. Cymeriad plaen a dirodres ydoedd, a diwyd i ddyledswyddau cyffredin bywyd. Chwith fydd ei cholli gan amryw.
Yr oedd yn aelod selog yn y Traeth Cymerodd y gladdedigaeth le, yr hon oedd anghyhoedd, heddyw (dydd Mawrth) yn mynwent Abererch. Gwasanaethwyd gan y Parch. T. Williams, The Elms. Cydymdeimlir a'i pherthynasau yn eu gofid. Gofelid am y trefniadau gan Mr Morris M. Williams, Emporium.