MILWAUXEE, WISCONSIN.
Nos Fawrth, Ionawr 23ain, daeth aelodau eglwys Gymreig Milwaukee yn nghyd i ddadgan eu teimladau da a dymuno Duw yn rhwydd i Mr. Hugh P. Roberts, cyn myned i goleg Ripon i barotoi ar gyfer y weinidogaeth. Dechreuwyd y cyfarfod am wyth o'r gloch dan lywyddiaeth y gweinidog, Parch. Henry K Jones.Eisteddai y brawd gyda'r gweinidog a diaconiaid yr eglwys; Mri. Z. A. Mather, Richard Jones, R. J. Roberts, Edward Jones, T. J. Morgan, ac E. M. Powell yn cael ei gynrychioli gan ei ferch fach Betty, a rhoddodd adroddiad yn Gymraeg, ac yn deilwng o gynrychioli ei thad. Nis gallai Mr. James Owen sydd hefyd yn ddiacon fod yn bresenol o herwydd y tywydd, ac yntau yn gwella ar ól bod yn wael am beth amser.
Cafodd y brawd ieuanc gyngorion gwerthfawr gan y gweinidog a'r diaconiaid, a phob un yn dwyn tystiolaeth uchel iddo. Rhoddodd Miss Ruth Roberts a Miss Hannah Williams ddeuawd ar y berdoneg, yna cafwyd adroddiad yn Saesneg gan Miss Catherine James. Y mae hi yn barod bob amser i wneyd ei rhan, a hyny yn rhagorol.
Galwodd y llywydd ar y pedwarawd yn mlaen, sef Mrs. Lewis Humphreys, Miss Edith Williams, John Roberts a John R. Jones; Miss Ruth Roberts yn cyfeilio. Hefyd cyflwynodd Mr. Owen Davies Feibl Cymraeg i Hugh Roberts. Yna deuwyd at brif amcan y cyfarfod, a chyflwynodd y llywydd ar ran lluaws cyfeillion y brawd swm sylweddol o arian, a theilwng o Gymry Milwaukee. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu yr anthem genedlaethol. Ar ol y cyfarfod cafwyd ychydig ymborth, y merched, wrth gwrs, oedd yn gofalu am hyn, ac nid oes angen dweyd fod y merched wedi gwneyd eu rhan ar yr amgylchiad hwn.
Diolchodd Hugh Roberts yn gynes am y caredigrwydd tuag ato. Mae Hugh Roberts yn fab i Mr. Richard Roberts, Abererch Road, Pwllheli, ac hefyd yn frawd i'r Parch. William P. Roberts sydd yn weinidog gyda'r Wesleyaid yn yr Hen Wlad; ac oddeutu wyth mlynedd yn ol, bu ar daith drwy y wlad hon, ac yn pregethu yn Milwaukee. Ein dymuniad yw ar i Hugh Roberts gyraedd yr un nod a'i frawd yn y weinidogaeth. Dos yn mlaen gyfaill.
Y Drych 22/02/1917
LLWYDD BACHGEN O'R DREF MEWN GWLAD DRAMOR.
Oddeutu tair blynedd a haner yn ôl aeth amryw o blant y dref am yr America, ac yn eu mysg yr oedd Hughie Roberts (mab ieuengaf Mr Richard Roberts, Abererch Road, a brawd y Parch. W. P. Roberts, Aberdyfi), yr hwn fu yn gwasanaethu gyda Mr D. Williams, Pwlldefaid.Oddeutu pythefnos yn ôl anrhegodd eglwys Illinos ef â phwrs o aur ar ei fynediad i Goleg Ripon, am gwrs o efrydiaeth, gogyfer a'r weinidogaeth. Bu yn weithgar a diwyd yn yr eglwys hon.
Dymunwn bob llwyddiant iddo.