MARW HEN DREFWR.

Dydd Sul diweddaf, wedi cystudd blin, bu farw Mr. John Thomas, Abererch Road (gynt o'r New Wellington), yn 72 mlwydd oed.

Gedy weddw, dwy ferch, a thri o feibion i alaru ar ei ôl.

Cleddir yn mynwent Abererch ddydd lau, am un o'r gloch.

Yr Udgorn 31/05/1916


CLADDEDIGAETH.

Dydd Iau diweddaf claddwyd gweddillion Mr. John Thomas, Abererch Road (gynt New Wellington), yn mynwent Abererch.

Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn. David Roberts, Abererch, a J. Rhydderch, ac wrth y bedd gan y Parch. D. Jones, B.A., y ficer.

Yr Udgorn 07/06/1916