Creulondeb at Geffylau.

DIRWY DROM.

Yn ynadlys Pwllheli ddydd Mercher, cyhuddai yr Arolygydd W. Snelling, William Jones, Abererch Road, Pwllheli, cariwr, a'i was, Edward Jones, 72, North Street, Pwllheli, o weithio ceffyl tra mewn cyflwr anghymwys ar Mai 2fed. Ymddangosai Mr. S. R. Dew dros yr Arolygydd a Mr. W. Cradoc Davies, dros y diffynydd William Jones.
Eglurodd Mr. Dew i'r Rhingyll Lloyd alw i weld y gaseg, yr hon oedd mewn cyflwr teneu iawn a briwiau ar ei chefn. Yr oedd un briw yn mesur pedair modfedd wrth ddwy neu dair modfedd, ac yn bur ddwfn. Yr oedd y gaseg yn cludo cerryg y Sadwrn blaenorol, ond bu raid galw y meddyg anifeiliaid i'w golwg, a bu raid ei lladd yn fuan. Dywedodd fod yr achos yn un o'r rhai mwyaf difrifol o greulondeb, ac yr oedd yn anffortunus i'r diffynydd, Edward Jones, gan mai gweithio yn ôl gorchymyn y diffynydd, William Jones, yr oedd ef, a phe bai yn gwrthod, yna buasai yn colli ei le. Dywedodd Edward Jones ei fod wedi dodi sachau am y briwiau, a dweyd wrth ei feistr nad oedd y gaseg yn gymwys i'w gweithio, ond gorchymynodd ef i fyned allan gyda hi. Tystiodd y Rhingyll Lloyd iddo weled y gaseg y dyddiad a nodwyd, a'i bod mewn cyflwr drwg iawn gyda briwiau o dan y goler ac mewn manau eraill. Yr oedd briw mawr ar ei gwddf. a chwydd yn codi i'w phen. Dywedodd y diffynydd, Edward Jones, fod y briwiau ar y gaseg ers tair wythnos. Mewn ateb i Mr. W. Cradoc Davies dywedodd fod William Jones yn gweithio ei geffylau yn galed, ond ei fod yn eu bwydo yn dda.
Tystiodd Ellis Pugh Williams, Abererch Road, ei fod yn gweithio i William Jones, y diffynydd. Gwyddai am y gaseg dan sylw. Dywedodd Edward Jones wrtho am y cyflwr yr oedd y gaseg ynddo, ac yn ei farn ef nid oedd mewn cyflwr addas i weithio. Clywodd William Jones yn gorchymyn i Edward Jones roi olew a sachan ar y briwiau.
Tystiodd yr Arolygydd Snelling fod cefn y gaseg wedi ei orchuddio â briwiau. Yr oedd un o'r briwiau yn ddwfn iawn, ac yr oedd yn greulondeb o'r mwyaf i weithio y gaseg yn y cyflwr hwnw. Cymerodd gwaed wenwyniad le, a bu raid lladd yr anifail. Yr oedd y sachau oedd ar gefn y gaseg wedi eu mwydo â gwaed. Dywedodd Edward Jones fod arno gywilydd myned allan gyda'r anifail gan ei bod yn edrych mor druenus. Nid oedd yn iawn i roddi sachau ar friwiau o'r fath, ac yr oedd yn waeth fyth i'w gweithio pan mewn cyflwr felly.
Tystiodd y meddyg anifeiliaid, G. Jones Roberts, fod ei gynorthwywr wedi gweled y gaseg ar y 5ed. Nid oedd mewn cyflwr priodol i weithio o gwbl. Yr oedd un o'r briwiau yn ddwfn iawn. Ni ddylid gweithio yr un ceffyl a briw arno, ac yr oedd yn greulondeb i roddi sach ar friwiau o'r fath.
Tystiodd y diffynydd, Edward Jones, y buasai ef yn cael ei droi ymaith o wasanaeth y diffynydd, William Jones, pe bai yn gwrthod myned a'r gaseg allan i weithio. Gweithiai y gaseg yn iawn pan yr aeth ef gyntaf i wasanaeth W. Jones. Yr oedd lwmp mawr ar ei chefn, yr hwn a dorodd allan yn friw. Nid oedd yn gymwys i'w gweithio o gwbl. Cafodd ef ei droi ymaith o'i wasanaeth pan yr ataliwyd y ceffyl arall i weithio. Dadleuodd Mr. Cradoc Davies ar ran William Jones, nad oedd ef yn fwriadol nac yn ymwybodol wedi achosi dim poen i'r gaseg. Y munyd y gwelodd ei chyflwr anfonodd am feddyg anifeiliaid i'w golwg. Dangosodd Mr. Dew nad oedd angen profi fod bwriad ar ran y diffynydd. Y mater i'w benderfynu oedd a fu creulondeb neu beidio.
Tystiodd y diffynydd, William Jones, ei fod yn cadw ceffylau ers llawer o flynyddau, ac na ddarfu heddwas erioed o'r blaen gwyno am eu cyflwr. Y funyd y galwyd ei sylw at y gaseg, prynodd botelaid o olew a golchodd hi. Yn ateb i Mr. Dew, gwadodd y tyst fod Edward Jones wedi cwyno wrtho fod y gaseg mewn cyflwr drwg. Yr oedd y briw yn gwaethygu a rhoddodd yntau sachau arno. Dygwyd cyhuddiadau cyffelyb yn erbyn y ddau ddiffynydd, Edward Jones a William Jones, am achosi creulondeb i geffyl arall ar Mai 5ed.
Tystiodd y Rhingyll Lloyd iddo weled y ceffyl yn tynu trol wag nawn y dydd dan sylw. Yr oedd yn gloff iawn a galwodd sylw y diffynydd, Edward Jones, ato, gan ei fod yn ymddangos mewn poen. Dywedodd Edward Jones iddo alw sylw ei feistr at ei gyflwr y boreu hwnw, ac iddo yntau ei orchymyn i fyned a llwyth o geryg o Chwarel y Penmaen, i Brynmoelyn, Pencaenewydd, ond fod y ceffyl mor gloff fel yr oedd yn methu a thynu y llwyth ac yn stopio yn barhaus, fel y penderfynodd fyned a hi yn ôl i'r ystabl. Yr oedd arno gywilydd bod allan gyda hi. Yna desgrifiodd y Rhingyll y briwiau oedd ar yr ysgwydd a than y goler, yn achosi poen i'r anifail. Yna aeth i weled y diffynydd, William Jones. Dywedodd yntau fod y meddyg anifeiliaid wedi bod yn ei olwg yn mis Mawrth. a'i orchymyn i gadw y ceffyl i mewn am bythefnos. Yr oedd yntau wedi gwneyd hyny a thybiai, meddai, y gallai weithio yn awr. Gwelodd y meddyg y ceffyl ar Ebrill 29ain a dywedodd wrtho y pryd hwnw ei fod wedi dechreu gweithio y ceffyl, ond ni ddywedodd wrtho am beidio. Felly, gweithiodd ef hyd y dyddiad a nodwyd. Cadarnhawvd yr uchod gan yr Arolygydd Snelling a Mr. Shelton Jones, meddyg anifeiliaid, yr hwn a dystiodd iddo ddweyd y ddwy waith wrth William Jones am iddo beidio gweithio y ceffyl am nad oedd mewn cyflwr priodol. Yr oedd wedi rhoddi eli iddo at y briwiau.
Tystiodd y diffynydd, William Jones, iddo atal y ceffyl, rhag gweithio am bythefnos, yn ôl gorchymyn y meddyg anifeiliaid. Meddyliai y bnasai yn well i'r ceffyl symud ychydig, a dyna'r paham yr anfonodd ef i gario y cerrvg. Nid oedd y meddyg wedi dweyd wrtho yr ail dro am beidio gweithio y ceffyl. Mewn croesholiad gan Mr. Dew, dywedodd mai y rheswm iddo atal Edward Jones i weithio ydoedd nad oedd ganddo ddim gwaith iddo ar ôl i'r ceffyl gael ei atal i weithio.
Tystiodd y diffynydd, Edward Jones, ei fod wedi cwyno wrth W. Jones fod y ceffyl yn gloff yn y boreu, ac iddo yntau orchymyn iddo fyned i gario y ceryg gyda hi. Yna, pan stopiwvd y ceffyl, ataliodd W. Jones yntau gan dalu diwrnod a haner o gyflog iddo, yn lle wythnos, gan mai wrth yr wythnos yr oedd wedi cyflogi ag ef. Yr oedd dau weithiwr arall wedi gwrthod myned allan gyda'r ceffyl hwn.
Wedi ymneillduo am beth amser bu i'r fainc ddirwyo William Jones i 2p 10s yn yr achos cyntaf ac i 2p yn yr achos olaf, a'r costau yn gwneyd cyfanswm o 9p. Dirwywyd y diffynydd, Edward Jones, i 2s 6c heb y costau yn yr achos cyntaf, a thafliwyd y cyhuddiad arall yn ei erbyn allan.

Herald Gymraeg 26/05/1914


YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher, gerbrcu Cyrnol Lloyd Evans (cadeirydd), Mri. J. G. Jones, Maurice Jones, Claud Lloyd Edwards, G. Hughes Roberts, Dr. Gwenogfryu Evans, W. W. Griffiths a J. Hughes Parry.

PEIDIO CLADDU DEFAID.

Cyhudwyd William Jones (carrier), Abererch Road, o adael cyrph dwy ddafad heb eu claddu mewn maes, ger Denio.

Tystiodd y Rhingyll Lloyd iddo weled esgyrn a gwlan y defaid yn y cae, ac yr oedd ffermwyr yn aml yn gadael cyrph anifeiliaid heb eu claddu.

Dywedodd y Cadeirydd fod y fainc yn awvddus am roddi gwers i amaethwyr ac eraill ar y mater, ac yr oeddynt yn ei ddirwyo i 10s. a 7s 6c o gostau.

Herald Gymraeg 02/02/1915