CYRHAEDD HEN OED.
Boreu Mawrth bu farw Miss Margaret Jones, Minallt, Lleyn Street, yn ei 94 mlwydd oed.Adnabyddid hi fel Miss Jones, y Traeth. Yr oedd yn enedigol o Llandwrog a bu yn haelionus iawn wrth achosion crefyddol a dyngarol, yn enwedig yr achos cenhadol.
Treuliodd ran olaf ei bywyd ,gyda Mr. a Mrs. Cenin Jones yn y lle a enwyd uchod.