MARW GWRAIG RINWEDDOL.
Drwg genym gofnodi marwolaeth, a hyny wedi cystudd blin, ddydd Llun, Ebrill 2il, y wraig rinweddol Mrs Mary Owen, 44, Sand Street (mam Mr Robert Owen, cigydd, Heol Fawr), a hi yn 74 mlwydd oed.Yr oedd yr ymadawedig yn wraig dawel a hoff gan ei chydnabod, a gwelodd aml a blin gystuddiau yn ystod ei thaith yn yr anialwch. Yr oedd yn aelod selog a ffyddlawn yn nghapel y Tabernacl.
Cymerodd ei chladdedigaeth le, yr hon oedd anghyhoedd, ddydd Iau yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. H. H. Williams, gweinidog y Tabernacl.
Gedy ar ei hôl unig blentyn i alaru ei golled ar ôl mam mor ofalus a thirion, â'r hwn y mae ein cydymdeimlad dyfnaf.