YR YNADLYS.
Cynhaliwyd dydd Mercher. Yr oedd yn bresenol Mri J. G. Jones, William Thomas a W. W. Griffith.GWR A GWRAIG.
Gofynai Grace Jones, 2, Mount Villa, am archeb oddiwrth ei gŵr, Robert Jones, Coal Merchant, Sand Street, am yr honai ei fod yn arfer creulondeb tuag ati. Ymddangosai Mr William George ar ran y wraig, a Mr E. R. Davies ar ran y gŵr.Dywedai Mr George fod y gŵr yn ymddwyn yn greulon at ei wraig. Bu iddynt briodi tua phum' mlynedd yn ôl. Yr oedd y gŵr yn weddw gyda thri o blant. Ar yr 11eg o'r mis o'r blaen aeth yn gweryl rhyngddynt, a dywedodd y gŵr nad oedd yn werth ei halen ac archodd iddi fyned ymaith, ac aeth hithau i dŷ cymydoges.
Gofynai y Cadeirydd a oedd dim modd cael y partion i gyd fyw. Dywedai Mr E. R. Davies fod y drws yn agored i'r wraig fyned yn ôl unrhyw adeg. Yr oedd y gŵr yn gwadu yn bendant y cyhuddiad o greulondeb. Ar awgrymiad y Cadeirydd gohiriwyd yr achos am bythefnos er rhoi cyfle i'r partion gytuno.