MARWOLAETH.

Bora Mawrth bu farw Mr Owen Jones. Glan Eifion, Sand St., yn ei 66 mlwydd oed. Bu Mr Jones yn nychu am beth amser.

Dilynai yr alwedigaeth o ddilledydd a bu yn gweithio am flynyddau yn Nyffryn Nantlle.

Cydymdeimlir yn ddwfn a'i weddw yn ei phrofedigaeth. Cymerodd ei angladd le yn Mynwent Denio, dydd Sadwrn.

Yr Herald Gymraeg 07/03/1916


NEW YORK A VERMONT.

ARDALOEDD Y CHWARELI.
Granville. N. Y. Ebrill 4ydd, 1916.

Mae y brawd a'r chwaer ieuanc Owen ac Emily Jones wedi derbyn y newydd galarus o Gymru am farwolaeth eu hanwyl dad, sef Owen Jones (Teiliwr), Glyn Eifion, Sand St. Pwllheli.

Mae yr oll o'r plant oddi cartref yn yr Unol Dalaethau a Canada. Mae un mab iddo, sef Leonard Jones yn Castleton; Jane, sef Mrs. William Owens yn rhywle yn Canada; Ellen, sef Mrs. Richard Williams yn Winnipeg. Canada.

Mae ein cydymdeimlad a'r teulu trallodus yn eu profedigaeth.

Y Drych 06/04/1916