CLADDEDIGAETH.
Brydnawn Sadwrn daeth tyrfa barchus i weinyddu y gymwynas olaf i Mr Griffith Owen, Carnarvon Road, goruchwyliwr yswiriol, yr hwn fu farw y dydd Mercher blaenorol yn yr oedran cynar o 36 mlwydd oed.Gadawodd weddw, dau o blant, a, mam weddw dros bedwar ugain mlwydd oed i alaru ar ei ôl ynghyd a brawd a chwiorydd.
Yr oedd yn gymeriad rhinweddol a hoffus. a bu yn nychu am rai blynyddau.
Gwasanaethwyd gan y Parch J. Puleston Jones. M.A.. wrth y tŷ, a chan y Parch J. Edwards, Ficer, wrth y bedd. Yr oedd Aelodau Cymdeithas y Coedwigwyr yn bresenol yn eu hurdd wisgoedd.
Yr Herald Gymraeg 30/11/1915
MARWOLAETH.
Dydd Mercher diweddaf, wedi cystudd maith a blin, bu farw Mr. Griffith Owen, 3, Carnarvon Road, yn 38 mlwydd oed.Dydd Sadwrn cludwyd ei weddillion i orphwys i fynwent Denio gan dorf lluosog.
Gwasanaethid wrth y tŷ gan y Parch. J. Puleston Jones, M.A., ac wrth y bedd gan y Parch. J. Edwaids, B.A., y ficer.
Gadawa wraig a dau o blant a theulu lluosog i alaru ar ei ôl, a'r rhai y mae ein cydymdeimlad llwyraf.