ERLYN TAFARNWYR YM MHWLLHELI.
Cynhaliwyd ynadlys arbenig ym Mhwllheii dydd lau, pryd yr erlynwyd dau drwyddedwr o dori y deddfeu trwyddedol trwy roddi diod i'r milwyr yn anghyfreithiol. Yr oedd Mri. J. G. James, G. Hughes Roberts, a Dr. R. Jones Evans ar y fainc.TAFLU ALLAN.
Cyhuddwyd Griffith Owen, Black Lion Inn, Pwllheli, o werthu diod i filwr ar y Sul pan nad oedd ganddo drwydded i wneyd hyny.Ymddangosodd Mr. George ar ran yr erlynydd a Mr. M. E. Nee, Caernarfon dros y diffynydd.
Eglurodd Mr. George mai trwydded chwe diwrnod oedd gan y diffynydd ac nad oedd ganddo hawl i werthu diodydd meddwol ar y Sul dan unrhyw amgylchiadau. Tystiodd y Rhingyll Lloyd ei fod wedi cael ei gyfarwyddo i wylio y Black Lion Inn ar Sabboth y 13eg y mis hwn, yn herwydd cwynion oeddynt wedi eu derbvn. Yr oedd ef yn ymguddio yn un o'r cerbydau ar y rheilffcrdd a gwelodd ddau filwr yn dod i siarad a'r trwyddedydd, aeth y ddau dros y clawdd ac i mewn i'r tŷ trwy ddrws y cefn. Pan aeth ef i gyfeiriad y tŷ gwelodd y milwyr yn dod allan trwy ddrws y cefn. Aeth ef i mewn i'r tŷ ac yr oedd yno ddau lestr peint ar y bwrdd a chwrw ffres i'w weled yn eu gwaelod. Pan alwodd sylw y trwyddedwr at y mater dywedodd y cymerai ofal na ddeuai miIwyr yno yn rhagor. Ni welodd bwcedi o gwbl gan y ddau filwr. Dywedodd Mrs Owen fod y peintiau cwrw yno heb eu golchi er nos Sadwrn. Dywedodd y forwyn wrtho fod y milwyr wedi gofyn am gwrw yno ond eu bod wedi eu gwrthod. Pan aeth ef a'r Arolygydd Owen yno yn ddiweddarach daeth dau filwr arall dros glawdd y cefn a phan welsant hwy bu iddvnt fyned ymaith.
Yn ateb i Mr Nee dywedodd fod Mrs Owen wedi dweyd fod y gwydrau heb eu golchi er nos Sadwrn.
Tystiodd yr Arolygydd Owen ei fod ef wedi rhoddii cvfarwyddyd i'r Rhingyll Lloyd i wylio y lle oherwydd cwynion oeddynt wedi eu derbvn. Dywedodd y trwyddedwr wrtho ef mai dod yno i geisio dwfr i'r ceffylau yr oedd y milwyr. Ond nid oedd wedi son am hyny wrth y Rhingyll Lloyd.
Dywedodd Mrs Owen a Miss Owen wrtho mai wedi eu gadael er nos Sadwrn yr oedd y gwydrau cwrw heb eu golchi. Dadleuodd Mr M. E. Nee nad oedd sail o gwbl i'r cyhuddiad. Yr oedd yn amlwg fod y rhingyll wedi gwneud camgymeriad wrth weled y milwyr yn dod yno i geisio dwfr. Yr oeddynt wedi cael cyfarwvddyd yr awdurdodau milwrol i gario dwfr i'r ceffylau o'r lle. Yr oedd agoriadau y bar yn mhoced Mrs Owen ac nid oedd yn bosibl i neb gael diod yn y lle.
Cadarnhawvd yr uchod gan Mr. Owen, y trwyddedwr, yr hwn a ddywedodd fod na bedwar o wydrau cwrw gwag ar y bwrdd. Yr oeddynt wedi dod a hwy yno o ystafell arall ac yr oedd yno dros dri dwsin o wydrau heb eu golchi er nos Sadwrn yn y gegin. Yn ateb i Mr. William George dywedodd fod y Rhingyll Lloyd wedi dweyd fod ffroth cwrw ffres yn y gwvdrau ar y bwrdd. Nid oedd ef wedi ei gywiro ar y pryd er ei fod yn gwybod na chafodd neb gwrw yno y boreu hwnw. Nis gwyddai ef sut y bu i'r forwyn ddweyd fod y gwydrau yn yr ystafell er y noson flaenorol. Ni soniodd ef fod y milwyr yn ceisio dwfr i'r ceffylau wrth y Rhingvll Lloyd. Yr oedd yn amhosibl i'r Rhingyll weled drws y cefn o'r gerbvdres ar y rheilffordd. Dweud ddarfu ef y cymerai ofal na ddeuai y milwyr yno. Nid oedd wedi defnyddio y gair "eto" o gwbl.
Tystiodd Bombardier J. Williams iddo anfon dau filwr o'r enwau Williams a Balman i geisio dwfr i'r ceffylau i gefn y Black Lion Hotel tua. 10-15 y boreu Sul dan sylw. Cadarnhawyd gan Driver Watkin Williams yr hwn a sicrhai ei fod yn llwvr ymwrtbodwr ac mai ceisio dwfr yr ydoedd ac nid ceisio cwrw. Cadarnhawyd gan Driver James Balman, yr hwn oedd yn gofalu am y ceffylau y boreu dan sylw.
Tystiodd Mrs Owen gwraig y trwyddedydd fod y Rhingyll Lloyd wedi galw arni a dweyd fod yno ddau filwr wedi bod yn y tŷ. Ond sicrhai hi nad oedd hyny yn wir, ac eglurodd i'r Rhingyll mai y ferch ddaeth a'r glasses oedd ar y bwrdd i lawr o'r ystafell giniaw. Nid oeddynt wedi agor y bar y diwrnod hwnw, ac nid oedd yn bosibl i neb gael dioddd gan fod yr agoriadau ganddi hi. Yn ateb i Mr. George, dywedodd na ddywedodd Rhingyll Lloyd wrthi fod yno gwrw ffres y glasses, ac ni ddywedodd hi ar y pryd fod y glasses yno ers nos Sadwrn.
Tystiodd Miss Kate Owen, merch y trwyddedwr mai hi ddaeth a'r pedwar glass o'r ystafell giniaw i'r gegin. Ni chafodd neb eu cyflenwi â diod y diwrnod hwnw. Rhoed tystiolaeth bellach gan Miss Lizzie Wright yn nghylch y milwyr fu yn ceisio cwrw yn drws cefn, ond sicrhai na fu iddynt gael diod,
Ar ôl ymneillduo am beth amser dywedodd y fainc nad oeddynt yn teimlo fod y tystiolaethau ddigon cryf i gosbi y trwyddedydd ond teimlent fod yr heddlu i'w cyfiawnhau am ddod a'r achos yn mlaen.
Felly taflwyd yr achos allan.
Yr Herald Gymraeg 29/05/1915
Llys Ynadol Pwllheli.
Ddydd Mercher, Medi 22ain.-Gerbron Dr. J. Gwenogvryn Evans (yn y gadair). Dr. S W Griffith, C. H. Lloyd Edwards, Ysw., W. W Griffith, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw.CYHUDDIAD YN ERBYN TAFARNWR.
Cyhyddid Griffith Owen, trwyddedydd y Black Lion Inn, Pwllheli, gan yr Arolygydd Owen, o fod wedi caniatau i hocer o'r enw William Thomas fod yn feddw yn ei dafarndy ar Awst 31ain. Erlynid gan Mr. William George, ac amddiffynid gan Mr. M. E. Nee.Dywedodd William Thomas iddo gyraedd Pwllheli y diwrnod dan sylw oddeutu dau o'r gloch, a chafodd botel o stout yn y Ship Inn. Yr oedd wedi cael peint o gwrw yn Rhydyclafdy cyn cychwyn oddiyno. Wedi bod yn gwneud busnes yn y dref am tuag awr aeth i'r Black Lion a chafodd botel o stout yno. Wedi hyny rhoes ei geffyl yn stabl y dafarn ac aeth yntau i'r tŷ a chafodd botel o stout drachefn. Bu wedi hyny yn galw mewn amryw siopau yn y dref ac aeth i'r Black Lion unwaith wedyn a chafodd botel arall o stout. Cychwynodd o'r tafarndy hwnw tua chwech o'r gloch a galwodd am ddiod yn y Star Inn, ond fe'i gwrthodwyd.
Yn fuan wedi hyny daeth yr Arolygydd Owen ato a chymerodd ef i fyny. Y dydd dilynol dirwywyd ef yn y llys i ddeg swllt. Wrth gael ei groesholi dywedodd y tyst ei bod ymhell wedi pedwar o'r gloch arno yn cael diod y tro olaf yn Black Lion, a'i fod yn sobr pan yn myned oddiyno.
Tystiwyd gan fachgen Wm. Thomas y bu ei dad yn y Ship Inn ac wedi hyny yn y Black Lion. Yr oedd ei dad braidd yn feddw pan yn mynd o'r Black Lion y tro olaf, ond medrodd neidio i'r cerbyd wrth gychwyn ac yr oedd yn iawn pan yn siarad gyda dau ddyn ymhen ychydig wedi hyny. Ni alwodd ei dad yn unman ond yn y Star ar ôl bod yn y Biack Lion.
Tystiwyd gan yr Arolygvdd Owen y gwelodd William Thomas yn feddw yn Gaol Street y noson hono ychydig wedi saith o'r gloch, a chymerodd ef i fyny. Aeth y tyst gyda'r Rhingyll Lloyd i Black Lion. Dywedodd gŵr y tŷ wrthynt nad oedd wedi gweled Thomas yn cael diod yno, a'i fod yn sobr pan yn myned oddiyno. Eithr dywedodd y wraig iddo gael potel o stout yno yn y prydnawn, ond nad oedd hi i mewn pan aeth Thomas allan -y ferch oedd yno. Aeth y tvst hyny i weled y ferch, a dywedodd hi nad oedd wedi rhoi diod i Thomas o gwbl.
Tystiwyd gan Griffith Owen, y diffynydd, i Wm. Thomas alw gyntaf rhwng un a dau. Galwodd wedi hyny oddeutu pedwar a thrachefn tua chwech. Nid oedd ef, y tyst, wedi rhoi diod iddo o gwbl, ac yr oedd yn sobr pan aeth oddiyno.
Tystiwyd gan Mrs. Owen, gwraig y trwyddedydd, yr hon ddywedodd y cafodd Thomas ddwy botel ganddi hi ac un gan y ferch. Nid oedd yn wir iddi hysbysu yr Arolygydd Owen a'r Rhingyll Lloyd na chafodd Thomas ond un botel dywedodd wrthynt ei fod wedi cael tair. Tystiwyd gan Miss Kate Owen, y ferch, y gwelodd Wm. Thomas gyntaf oddeutu pedwar o'r gloch. Yr oedd wedi cael dwy botel o stout gan ei mam, a chafodd un ganddi hithau. Daeth Thomas yno drachefn tua chwech, ond ni chafodd ddiod y pryd hwnw, ac ni ofynodd am ddim aeth oddiyno yn hollol sobr. Wrth gael ei chroesholi dywedodd mai'r oll grybwyllodd wrth yr Arolygydd Owen oedd y rhoes ddiod i Thomas unwaith, ac na roes ddim iddo y tro diweddaf y galwodd. Nid oedd wedi dweyd na roes ddiod iddo o gwbl.
Tystiwyd gan Ellis Jones ei fod gyda Wm. Thomas yn y Star Inn y noson hono. Yn ei farn ef yr oedd Thomas yn sobr ond gwrthodwyd iddo gael diod. Gwrthodwyd diod iddo yntau hefyd er nad oedd wedi cael yr un diferyn y diwrnod hwnw.
Taflwyd yr achos allan.
Yr Udgorn 29/09/1915
Ynadlys Pwllheli.
Cynhaliwyd dydd Mercher, gerbron Mri. J. G. Jones (cadeirydd), Maurice Jones, Dr. S. W. Griffith, Dr. Gwenogfryn Evans, Mri. W. Thomas, G. Cornelius Roberts, J. Hughes Parry.CYHUDDIAD YN ERBYN TAFARNWR.
Cyhuddwyd Griffith Owen, Black Lion Hotel, Pwllheli, o werthu diod i Mrs. Dorkins, Abererch Road, pan yr oedd yn feddw ac yn ystod oriau gwaharddedig, nos Sadwrn, Rhagfyr 2ail.Ymddangosai Mri. W. George ac E. R. Davies ar ran yr Heddlu, a Mr. M. E. Nee, Caernarfon, ya amddiffyn.
Tystiai Miss Jenny Edwards, 20, Abererch Road, iddi hi a Mrs. Hughes weled Mrs. Dorkins yn gorwedd ar y ffordd tuag ugain munud i chwech y nos Sadwrn dan sylw, gyda photel gwrw a dwy ganwyll yn ei hymyl. Yr oedd sawyr diod arni. Galwasant ar ddau ddyn i ddod i'w cynorthwyo i'w chodi.
Yn ateb i Mr. Nee dywedai ei bod yn meddwl mai cwrw oedd yn y botel Nis gwyddai sut y bu iddi syrthio ar y ffordd. Mrs. Laura Ellen Hughes, 32, Abererch Road, a gadarnhai dystiolaeth y tyst diweddaf. Gwelsant Mrs. Dorkins yn gorwedd ar ei hyd yn y llaid ar y ffordd. Nis gallai ddweyd beth oedd yn y botel. Tystiai Mr. John Lloyd, North Street, iddo gynorthwyo i fyned a Mrs. Dorkins i'r tŷ y nos Sadwrn dan sylw.
Yn ateb i Mr. George dywedai nas gwyddai beth oedd hi o'r gloch nid oedd erioed wedi dysgu gwybod faint oedd o'r gloch (chwerthin). Tystiai y Rhingyll Lloyd iddo fyned i'r Black Lion Hotel y Llun dilynol, a chyhuddodd Mrs. Owen o roddi diod i Mrs. Dorkins cyn chwech o'r gloch y nos Sadwrn blaenorol, gan ei bod wedi ei chanfod yn gorwedd yn feddw yn Abererch Road. Dywedodd Mrs. Owen iddi roddi peint o gwrw i Mrs. Dorkins mewn potel tua 6-5 yr hwyr.
Tystiai Mrs Jones, Abererch Road, iddi weled Mrs Dorkins yn cerdded yn bur ansicr tuag ugain munud i chwech. Tystiai Mr. Griffith Owen, y trwyddedydd, ei fod ef yn y tŷ y noswaith dan sylw. Daeth Mr. R. J. Jones, Eifl Temperance Hotel, i'r ty pum' munud cyn chwech, ac nid oedd wedi ei agor y pryd hwnw. Daeth Mrs. Dorkins i'r tŷ bum' munud wedi chwech o'r gloch. Mrs. Jane Williams, 7, High Street, a dystiai i Mrs Dorkins ddod i siop Mrs. Ann Ellis i brynu dwy ganwyll wedi chwech o'r gloch y noson dan sylw. Nid oedd dim allan o'i le yn ei hymddygiad.
Bu y Rhingyll Lloyd yn siarad â hi bump o weithiau o berthynas i'r amser y daeth Mrs. Dorkins i'r shop. Dywedodd wrtho nas gwyddai yn iawn pa amser y bu yno. Tystiai Mrs Owen, gwraig y trwyddedydd, ei bod hi a'i phriod a'r ferch yn y gegin cyn chwech o'r gloch y noson dan sylw. Daeth Mr. Jones, yr Eifl, i'r tŷ bum' munud cyn chwech, ac ar ôl iddynt agor chwech o'r gloch daeth Mrs. Dorkins i'r ty. Yr oedd yn hollol sobr. Yr oedd ganddi ganwyllau yn ei llaw, ac yr oedd yn wylo ar ôl ei mhab a laddwyd yn y rhyfel.
Dywedodd y Rhingyll Lloyd wrthi na buasai son am y peth ar ôl hyny. Yn ateb I Mr. George dywedai nad oedd neb yn y tŷ pan ddaeth Mrs. Dorkins yno, ond yr oedd nifer o ddynion wedi galw cyn hyny, yn cynwys John Lloyd, yr hwn a roddodd dystiolaeth yn flaenorol. Rhoed tystiolaeth i'r un perwyl gan Miss Margaret Mary Owen, y ferch.
Tystiai Mr. R. J. Jones, Eift Temperance Hotel, ei fod yn gwneud busnes gyda Mr. Griffith Owen tua phum munud i chwech y noson dan sylw. Yr oedd y drws yn gauedig, a'r lle yn dywyll. Goleuodd Owen y lle tra yr oedd ef yno. Yn ateb i Mr. George dywedai ei fod wedi gweled John Lloyd yn dod i'r tŷ ar ôl iddynt agor. Mr. Evan Owen, New Street, a dystiai ei fod wedi gweled Mrs. Dorkins ar lawr ar y ffordd. Yr oedd gwaed ar ei gwyneb, a dywedai wrtho ei bod wedi syrthio. Yr oedd wedi chwech o'r gloch pan gychwynodd o'r ystablau yn yr hen orsaf. Yr oedd Mrs. Dorkins yn sobr yn ei farn ef, ac yr oedd yn sicr ei bod bum' munud wedi chwech pan welodd hi.
Yn ateb i Mr. George dywedai nad oedd ef wedi dweyd wrth yr Arolygydd Owen nas gwyddai pa amser ydoedd ac nad oedd Mrs. Dorkins yn sobr.
Dirwywyd ef i 1p. am werthu diod, a thaflwyd yr achos arall allan.
Yr Udgorn 20/12/1916
LLYS TRWYDDEDAU PWLLHELI.
Cynhaliwyd y llys uchod ddydd Mercher. Yr oedd yn bresenol : Mri. J. G. Jones (Cadeirydd), Mr. C. H. Lloyd Edwards, Colonel Gough, Dr. S. W. Griffiths, G. Hughes Roberts, G. Cornelius Rober, J. Hughes Parry, W. W. Griffiths.Y BLACK LION HOTEL.
Ymddangosai Mr. William George ar ran yr heddlu a'r blaid ddirwestol i wrthwynebu adnewyddu trwydded y Black Lion Hotel i Mr. Griffith Owen.Tystiai yr Arolygydd Owen ei fod wedi cael achos i fanylu ar ymddygiad y tŷ droion yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Yr oedd y trwyddedwr wedi ei ddirwyo i bunt yn ddiweddar am werthu diod i ddynes feddw. Yr oedd wedi ei gwysio ar ddau amgylchiad arall ond taflwyd yr achosion allan. Credai nad oedd angen y tŷ yn y dref.
Tystiai Mr. D. Caradog Evans, ysgrifenydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion, nad oedd angen y drwydded o gwbl. Yn ateb i Mr. Nee, addefai ei fod o blaid diddymu pob un o'r tafaranau. Hefyd rhoed tystiolaeth gyffelyb gan y Parch J. Puleston Jones, M.A. Yn ateb i Mr. Nee dywedai y gellid defnyddio yr ystablau a'r cerbydau pe y diddymid y drwydded. Yr oedd ef yn defnyddio cerbydau o'r lle ei hunain.
Tystiai Mr. Griffith Owen, y trwyddedydd, nad oedd yn wir fod y milwyr wedi cael diod yn y tŷ ar y Sul. Buont yn yr iard yn cyrchu dwfr i'r ceffylau, fel y byddent arfer bob dydd arall o'r wythnos. Am y dyn a ddirwywyd am fod yn feddw gyda cheffyl a cherbyd ni chafodd ond un botelaid o stout yn y tŷ tua pedwar o'r gloch, ac yr oedd yn 6.30 pan welwyd ef yn feddw. Sicrhai Mrs Owen nad oedd y ddynes a ddirwywyd am fod yn feddw ar y ffordd dan ddylanwad diod pan roddodd beint o gwrw iddi mewn potel.
Rhoed cymeriad uchel i'r tŷ gan Mr. Thomas Humphreys, saer. Yn ateb i Mr. W. George, cyfaddefai ei fod yn gweithio i berchenog y tŷ, ond nid oedd hyny yn gymhelliad iddo roddi tystiolaeth. Mr. Robert Jones glo fasnachydd, a dystiai, y byddai ef yn gwneyd defnydd mynych o'r tŷ i wneyd busnes a'i gwsmeriaid er ei fod yn llwyr ymwrthodwr ei hunan. Nis gallai fyned i'r tai dirwestol i wneyd busnes. Rhoed tystiolaeth uchel i'r tŷ gan Mr. Griffith Owen, Glanllynau.
Dywedodd y Cadeirydd fod y fainc wedi pasio i adnewyddu y drwydded ac i roddi un cyfle arall i'r trwyddedydd.