DAMWAIN OFIDUS.
Prydnawn Sadwrn digwyddodd damwain ofidus iawn i Mr Robert Jones, mab Mr a Mrs Hugh Jones, Carnarvon Road, trwy i ergyd fyned allan yn ddamweiniol o wn perthynol i, Mr John Plas Jones, yn y Garn, ac iddi wneud niwed difrifol i'w droed.Aed ag ef ar unwaith i'r ysbyty i Fangor, a deallwn nad yw yr archoll a gafodd i'w droed mor ddrwg ag y meddylid ar y cyntaf, a'i fod yn gwella.