ER COF AM EI DAD.
Yn y 'Cyfaill Eglwysig,' misolyn yr Eglwys Sefydledig, am y mis hwn ceir darlun cywir a hanes cryno o hynt bywyd y cyfaill diymhongar o'n tref, y Parch. Hugh Lunt, curad poblogaidd Eglwys Sant Peris, Nant Peris.Awdwr yr ysgrif yw'r pregethwr a'r llenor gwych, y Parch. Morris Roberts, Rhosybol, Môn, a rhydd eiriau uchel iddo fel pregethwr, dyn, a chymwynasydd o'r iawn ryw. Cred ei fod o ran ei gymhwystarau yn deilyngach o le uwch a gwell, a dywed fod tystiolaethau yr Ymneillduwyr iddo yn hynod ar gyfrif ei ddoniau gweinidogaethol.
Y mae wedi anrhegu Eglwys Nant Peris â drws newydd o dderw cadarn, gwerth 40p., o gynlluniad Mr Harold Hughes, Bangor, yn goffadwriaeth am ei anwyl dad, Mr John Lunt, Carnarvon Road.
Ar blat pres yr ochr fewnol i'r drws ceir y cyflwyniad fel hyn " Er gogoniant Duw a pharchus gof am y diweddar John Lunt, Pwllheli, gan ei fab, Hugh Lunt, curad, Tachwedd 1915."
Mawr hyderwn y gwel yr Eglwys ei chyfle mewn pryd i'w ddyrchafu yn deilwng, gan ei fod yn haeddu lle mwy ac eangach i'w feddyliau uchel a'i galon hael gael eu datblygu i'w llawn twf.